Gareth Thomas
Yn ôl adroddiadau yn y wasg, mae’r actor Mickey Rourke wedi cael llawdriniaeth ac hefyd wedi colli mwy na dwy stôn ar gyfer ei rôl ddiweddaraf – yn chwarae’r cyn chwaraewr rygbi Gareth Thomas.

Fe fydd y ffilm yn olrhain hanes bywyd Gareth Thomas, a gyhoeddodd ei fod yn hoyw yn 2009.

Mae’n debyg bod Rourke, sy’n 59 oed, wedi cyflogi hyfforddwr personol i’w helpu i golli’r pwysau. Mae e hefyd wedi cael llawdriniaeth ar ei lygaid, er mwyn edrych ychydig yn fwy tebyg i’r cyn-chwaraewr rygbi.

‘Macho’ ar y cae

“Mae’n ffilm am ddyn oedd yn chwarae rygbi, oedd mor ymosodol pan oedd yn chwarae – ac roedd e’n digwydd bod yn hoyw,” dywedodd yr actor.

“Dywedodd Gareth wrth Mickey ei fod e wedi bod yn fwy ‘macho’ ar y cae, am ei fod e’n cario cyfrinach,” dywedodd  cynhyrchydd y ffilm Colin Vaines.

Gwahaniaeth oedran ‘ddim yn broblem’

A dyw’r gwahaniaeth oedran rhwng y dynion ddim yn broblem, medd Colin Vaines.

“Pan mae Mickey yn barod, fel y mae e gyda hwn, mae’n gallu gwneud unrhyw beth. Dyw’r oedran ddim yn broblem.

“Rwy’n meddwl am Raging Bull Martin Scorsese yn cyfarfod This Sporting Life gan Lindsay Anderson,” dywedodd Colin Vaines.

Mae disgwyl i’r ffilm ddechrau ffilmio ym mis Medi, gydag Anthony Hoffman yn cyfarwyddo.