Mae saith o ferched oedd yn cael eu dilyn gan raglen S4C wrth iddyn nhw ail-sefydlu Carnifal Llangefni wedi ennill gwobr am eu hymdrechion.

Nos Wener, clywodd y saith, a fu’n destun  rhaglen S4C, Genod y Carnifal, eu bod wedi ennill gwobr Prif Ddigwyddiad y Flwyddyn yn noson wobrwyo Twristiaeth Môn 2012.

Doedd Carnifal Llangefni heb gael ei gynnal ers 18 mlynedd, cyn i Nici Roberts a chwech o’i ffrindiau fynd ati i atgyfodi’r ŵyl fawr.

Ar ôl wythnosau o drefnu, daeth y cyfan ynghyd yn Llangefni ar 9 Gorffennaf 2011, a daeth dros 2,000 o bobol i’r dref yng nghanol Ynys Môn i ddathlu’r digwyddiad.

‘Cefnogaeth cymuned’

Wrth gyflwyno’r wobr i’r merched nos Wener, dywedodd y trefnwyr fod y merched wedi “ysgogi cefnogaeth cymuned gyfan” er mwyn atgyfodi’r digwyddiad.

Roedd gwaith y saith yn cael ei ddogfennu gan griw teledu Cwmni Da yn ystod bob cam o’r trefniadau, a dyna roddodd fod i raglen Genod y Carnifal, a ddarlledwyd ar S4C yn ystod haf 2011.

“Fi a Llinos, best mate fi, gafodd y genod eraill on board – mae’n lot o waith ond gafon ni gyngor gan garnifals eraill a wnaethon ni gysylltu â Cwmni Da, ac aeth hi jyst yn nuts o fan’na,” meddai Nici Roberts.

“Oeddan nhw’n ein dilyn ni i bob man a wnaeth hynny lot o ddaioni,” meddai.

Paratoadau

Mae’r gwaith trefnu ar gyfer 2012 wedi bod ar waith ers misoedd bellach, ac mae’r merched yn hyderus bydd yr un gefnogaeth iddyn nhw eleni eto.

“Rydan ni’n dechrau yn ôl rŵan – gwneud y calendr am y flwyddyn. Mae yna rywbeth ymlaen bob mis – gynnon ni ddau ddigwyddiad y mis nesa’, parti plant Valentines efo disco lle fyddan ni’n dewis Queen newydd ac wedyn mae gynnon ni noson Siôn a Siân hefyd,” meddai Nici Roberts.

Mae’r merched yn gobeithio cyrraedd eu targed o £10,000 eto eleni, er mwyn gallu cynnal y carnifal.

Llwyddodd Carnifal Llangefni i guro nifer o ddigwyddiadau eraill er mwyn cipio gwobr digwyddiad y flwyddyn 2011 – gan gynnwys Sioe Môn, sy’n mynd ers dros 100 mlynedd, ac yn denu tyrfa o 60,000 yn flynyddol.