Gareth Thomas
Mae’r cyn-chwaraewr rygbi a seren Big Brother Gareth Thomas wedi annog y Gymdeithas Bêl-Droed i wneud cyhoeddiad i ddatgan eu cefnogaeth i bêl-droedwyr hoyw, er mwyn mynd i’r afael a rhagfarn ym myd y bêl gron.

Fe wnaeth Gareth Thomas  ei sylwadau mewn rhaglen ddogfen ‘Britain’s Gay Footballers’  gafodd ei darlledu neithiwr ar BBC3.

Yn ol Gareth Thomas, 37, ni fydd chwaraewyr talentog yn cael eu hannog i ddilyn gyrfa broffesiynol onibai bod camau’n cael eu cymryd i greu awyrgylch mwy cefnogol a chroesawgar.

John Fashanu

Roedd y  rhaglen yn cael ei gyflwyno gan Amal Fashanu, nith y pêl-droediwr Justin Fashanu, yr  unig bêl-droediwr proffesiynol ym Mhrydain i gyfaddef yn gyhoeddus ei fod yn hoyw.

Er iddi gael trafferth mawr cael pêl-droediwr o’r Uwch Gynghrair i drafod y pwnc, roedd Gareth Thomas wedi cytuno i gyfrannu ar y rhaglen.

Fe yw’r chwaraewr rygbi hoyw amlwg cyntaf yng Nghymru. Cafodd ei enwi hefyd yn arwr y flwyddyn gan y mudiad hawliau hoyw Stonewall yn 2010. Fe gyhoeddodd ei fod yn hoyw ym mis Rhagfyr 2009 gan ymddeol o fyd rygbi ym mis Hydref 2011.

Agweddau

Roedd  Justin Fashanu wedi lladd ei hun yn 1998. Dywedodd Amal Fashanu mai pwrpas y rhaglen oedd ceisio deall beth ddigwyddodd i’w hewythr, ac edrych ar agweddau tuag at wrywgydiaeth ym myd y bêl gron. Buasai Justin Fashanu wedi bod yn 51 mlwydd oed ar 19 Chwefror, 2012.

Mae Gareth Thomas a’r dyfarnwr rygbi Nigel Owens wedi cyfaddef eu bod  nhw wedi ystyried hunanladdiad cyn cyhoeddi eu bod yn hoyw.

‘Dal dig’

Joey Barton, o’r tîm Queen’s Park Rangers, oedd yr unig bêl-droediwr o’r Uwch Gynghrair i ymddangos yn y rhaglen.

Dywedodd buasai “rhai rheolwyr yn dal dig” a bod yna “ffigyrau hynafol sy’n meddwl os oes yna bêl-droediwr hoyw buasai yna bob math o ‘shenanigans’ yn yr ystafell newid.”

Mae yna 5,000 o chwaraewyr pêl-droed yn y Deyrnas Unedig.

Dreigiau Caerdydd

Mae unig dîm pêl-droed hoyw Cymru, Dreigiau Caerdydd, yn mynd i fod yn ymweld a’r Senedd ym Mae Caerdydd yfory, ar gyfer digwyddiad i ddathlu cyfraniad pobol hoyw, lesbiaidd a thrawsrywiol i dreftadaeth Cymru.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal gan Ganolfan Arbenigedd Hoyw, Lesbiaidd a Thrawsrywiol Cymru, a bydd y Gweinidog Diwylliant, Huw Lewis, yn trafod cyfraniad bobol hoyw i dreftadaeth Cymru dros y blynyddoedd.