Mae dyn 18 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio yn dilyn tân mewn tŷ yng Nghaerdydd.
Cafodd Heddlu’r De eu galw i fyngalo yng Nghefn Bychan, Pentyrch, gan y Frigâd Dân am dri y bore heddiw.
Does dim manylion am yr unigolyn fu farw hyd yma.
“Mi wnaeth unigolyn ddiodde’ anafiadau marwol yn dilyn y tân ac mae dyn 18 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio…mae’r ymchwiliad yn parhau” meddai llefarydd Heddlu’r De.
Mae Brigâd Dân y De hefyd yn ymchwilio i achos y tân, ar ôl cael eu galw I’r byngalo am 2.30 y bore yma.
Mae’r heddlu yn annog tystioln gydag unrhyw wybodaeth I’w ffonio nhw ar 101 neu’n ddi-enw ar rif Taclo’r Taclau sef 0800 555 111.