Simon Thomas
Mae un o’r Aelodau Cynulliad sy’n ymgeisio am ras arweinyddiaeth Plaid Cymru wedi dweud wrth pobol am wfftio’r arolygon barn a ffefrynnau’r bwcis heddiw, ac aros i glywed beth sydd gan yr ymgeiswyr i ddweud cyn penderfynu.

Dywedodd Simon Thomas y byddai’r hystings ar gyfer yr arweinyddiaeth, sydd i gael eu cynnal yn ystod mis Chwefror, yn gyfle i’r bobol ar lawr gwlad glywed beth fyddai ganddo i’w gynnig fel arweinydd Plaid Cymru.

“Dwi’n meddwl bydd rhai o’r ceffylau blaen yn disgyn tu ôl ac y bydd newidiadau, heb amheuaeth, i bwy fydd yn dod yn arweinydd ar Blaid Cymru,” meddai.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad, a oedd yn annerch y gynhadledd yng Nghaerdydd gyda dau o’i gefnogwyr – y cyn-ACau Owen John Thomas a Janet Davies – ei fod yn croesawu’r cyfle i fynd â’r ornest at garreg drws pobol Cymru.

“Mae ’na saith neu wyth o hystings i gael eu cynnal. Fe fydd dros fil o aelodau yn dod i’r hystings hynny, ac yn gallu’n cymharu ni’n uniongyrchol â’n gilydd,” meddai.

Rhybuddiodd pobl rhag gwrando ar farn y bwcis, sy’n rhoi Elin Jones a Leanne Wood ymhell ar y blaen, nag ar arolygon barn Facebook, sydd yn rhoi Leanne Wood ymhell iawn ar y blaen i unrhyw un o’r ymgeiswyr eraill, gydag Elin Jones yn ail, Dafydd Elis Thomas yn drydydd, a Simon Thomas yn olaf.

“Dydw i ddim yn poeni o gwbwl beth mae’r bwcis yn meddwl. Mae’r bwcis wedi rhoi Elin Jones yn ffefryn i ennill, ac maen nhw nawr yn rhoi Leanne Wood yn ffefryn.

“Ar hyn o bryd, dydw i ddim yn un o’r ceffylau blaen ond dwi’n siwr eich bod chi wedi cefnogi ac ennill gyda rhywun oedd ddim  yn ffefryn yn y gorffennol,” meddai.

Ymgyrch

Mae ymgyrch Simon Thomas am yr arweinyddiaeth wedi bod tipyn tawelach nag ymgyrchoedd Elin Jones a Leanne Wood yn ddiweddar, a dydi’r ymgeisydd ddim wedi llwyddo i ennyn cefnogaeth un Aelod Cynulliad na Seneddol i’w ymgyrch hyd yma.

Ond dydi hynny ddim yn fater sydd yn ei boeni’n ormodol, meddai Simon Thomas. “Dwi’n hapus i fynd â fy ymgyrch at yr aelodau fy hunan,” meddai, “ac mae gan bob aelod un bleidlais fan hyn.

“Yr unig bleidleisiau sy’n cyfri yw’r rhai sydd yn cael eu rhoi ar bapur mewn amlen i swyddfa’r blaid erbyn 15 Mawrth.”

Cefnogaeth

Dywedodd hefyd ei fod yn edmygu’r cyn-Aelodau Cynulliad oedd wedi ei gefnogi – gydag Owen John Thomas yn gyn-AC dros Ganol De Cymru, a Janet Davies yn gyn-AC dros Orllewin De Cymru.

“Dwi’n edmygu Owen John Thomas a Janet Davies am ennill cefnogaeth mewn ardaloedd sydd ddim yn draddodiadol gryf dros Blaid Cymru,” meddai.

Dywedodd ei fod yn gobeithio y gallai’r ras am arweinyddiaeth Plaid Cymru fynd â’r blaid i’r ardaloedd hynny.

“Mae’n hynod bwysig bod arweinydd newydd yn gallu adeiladu pontydd gyda’r rhannau hynny o Gymru sydd ddim wedi bod mor gefnogol i’r Blaid yn y gorffennol,” meddai.