Mae’r heddlu wedi cael yr hawl i gadw dyn yn y ddalfa am 36 awr arall i’w holi am lofruddiaeth gwraig 67 oed o Lanwllwni.

Ymddangosodd y dyn 26 oed sydd wedi ei arestio ar amheuaeth o’i llofruddiaeth o flaen Llys Ynadon Hwlffordd heddiw, lle cafodd gwarant ei roi i’w ddal y dyn am gyfod pellach.

Roedd y gwrandawiad wedi ei gynnal y tu ôl i ddrysau caeedig.

Arestio yng Nghaint

Yn ôl Heddlu Dyfed Powys, mae’n nhw’n parhau i ymchwilio i farwolaeth Irene Lawless, 67, a gafodd ei darganfod yn farw yn ei chartref brynhawn dydd Llun diwethaf.

Mae dau ddyn arall, 20 a 30 oed, hefyd wedi cael eu harestio ar amheuaeth o helpu troseddwr, ond maen nhw bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechniaeth yr heddlu.

Cafodd y tri eu harestio yng Nghaint, yn Lloegr, yn dilyn y digwyddiad. Daeth yr heddlu hefyd o hyd i gar Audi A3 du Irene Lawless yng Nghaint.