Heddiw yw’r dyddiad olaf i ymateb i ymgynghoriad Cyngor Celfyddydau Cymru ar ddatblygu’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.
Eisoes, mae cyfle wedi bod gan bobl i ymateb i gynigion ymgynghorol drafft y Cyngor ar ddatblygu’r diwydiant cerdd yng Nghymru.
Yn y ddogfen, mae Cyngor y Celfyddydau yn ystyried Cronfa Ddatblygu’r Diwydiant Cerddoriaeth maen nhw’n bwriadu cyflwyno ac yn gofyn am farn pobl.
Mae syniadau o nifer o wahanol ffynonellau wedi’u cynnwys yn y ddogfen gan gynnwys eu gwaith a’u partneriaeth â Sefydliad Cerdd Cymru.
Bwriad y gronfa yw ceisio annog cerddorion i fod yn entrepreneuriaid â’u cerddoriaeth drwy roi mynediad iddynt i’r sgiliau, y rhwydweithiau a’r marchnata sydd eu hangen ar y sector.
Gellid defnyddio’r gronfa hefyd i ariannu mentrau cerddorol sy’n ‘chwilio am ffyrdd arloesol i greu refeniw a pharhau i fuddsoddi mewn artistiaid.’
Mae’r gronfa hefyd eisiau datblygu cyfleoedd perfformio proffesiynol; cerddorion; cyfansoddwyr; hyrwyddwyr; ymchwil; hyfforddiant, mentora a gwasanaethau busnes eraill i gefnogi’r sector.