Mae ymgyrchwyr yn erbyn difa moch daear wedi gofyn am sicrwydd nad yw Llywodraeth y Cynulliad eisoes wedi dechrau paratoi ar gyfer cyflwyno cynllun difa arall.

Mewn llythyr at y Gweinidog Amaeth Elin Jones, mae grŵp ymgyrchu yn Sir Benfro yn datgan pryder ynghylch adroddiad am filfeddygon yn cysylltu â thirfeddianwyr ac yn honni gweithredu ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch paratoadau i reoli moch daear yn yr ardal.

Mae grŵp Atal y Cwlio Sir Benfro hefyd ar ddeall bod y gweithgareddau hyn yn cael eu trefnu mewn mannau sydd y tu allan i’r Ardal Triniaeth Ddwys – a’u bod yn cynnwys
paratoadau am leoliadau trapiau moch daear.

Yn y llythyr, mae aelodau’r grŵp ymgyrchu yn gofyn i Elin Jones gadarnhau nad oes camau o baratoi at y difa cael eu cymryd gan y Llywodraeth – cyn eu bod wedi ystyried ymatebion yr ymgyngoriadau y bydden nhw’n seilio’u penderfyniadau terfynol arnynt.

Ymateb y Llywodraeth…

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gwadu bod paratoadau o’r fath ar y gweill.

“Fe wnaeth yr ymgynghoriad ar y ddeddfwriaeth arfaethedig i ddifa moch daear gau cyn y Nadolig – a does dim penderfyniad wedi’i wneud eto ynghylch a ddylid bwrw ymlaen â’r cynigion,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad wrth ymateb i bryderon y grwp ymgyrchu.

Fe ychwanegodd y llefarydd eu bod yn “noddi rhaglen asesu bioddiogelwch i berchnogion gwartheg o fewn yr Ardal Triniaeth Ddwys – sy’n cael ei gynnal gan filfeddygon preifat”.

“Hon yw ail flwyddyn yr asesiadau hyn, ac maen nhw’n cael eu cynnal ar union yr un sail â’r flwyddyn flaenorol. Dyw’r ymweliadau ddim yn orfodol.

“Eleni, mae’r cynnig o ymweliad wedi’i estyn i ffermydd gwartheg yn yr ardal o gwmpas yr Ardal Triniaeth Ddwys. Mae hyn yn rhan o’n cynigion cyffredinol i godi lefel ymwybyddiaeth bioddiogelwch ac i gynorthwyo ffermwyr i ddiogelu eu buchesi.”