Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion ar ôl i ddynes 21 oed farw mewn gwrthdrawiad car ym Mrymbo ger Wrecsam ddydd Llun.

Digwyddodd y gwrthdrawiad  tua 7.20pm nos Lun, 23 Ionawr ar ffordd y B5105 Vicarage Road, Brymbo.

Roedd y ddynes yn teithio mewn car Peugeot 106 glas pan fu mewn gwrthdrawiad â Renault Laguna glas.

Bu farw’r ferch 21 oed, a oedd o ardal Wrecsam, yn y fan a’r lle.

Cafodd gyrrwr y Peugeot ei gludo i Ysbyty Maelor Wrecsam gydag anafiadau difrifol.

Ni chafodd gyrrwr y Renault Laguna ei anafu.

Mae’r crwner wedi’i hysbysu.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd a gwybodaeth i ffonio PC450 Aled Jackson ar 101.