Mae Heddlu Dyfed Powys yn parhau i holi dyn 26 oed mewn cysylltiad â llofruddiaeth gwraig 67 oed ym mhentref Llanllwni yn Sir Gaerfyrddin ddydd Llun.

Mae dau ddyn arall, 20 a 30 oed, hefyd wedi eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Cafodd corff Irene Lawless ei ddarganfod yn ei chartref ar Ystâd Bryndulais, Llanllwni ddydd Llun.

Yn ôl trigolion lleol, roedd Irene Lawless yn byw yn y byngalo ar ei phen ei hun, ac wedi ymgartrefu yn yr ardal ers blynyddoedd lawer a magu plant yno, er nad oedd hi’n dod o’r ardal yn wreiddiol.

Sioc

Mae’r newyddion am  lofruddiaeth Irene Lawless wedi achosi sioc a braw yn y gymuned, gyda phobl leol yn ei disgrifio fel menyw “hoffus ac annibynnol”.

Dywedodd y cynghorydd sir Linda Davies-Evans: “Mae hyn yn ddigwyddiad trasig mewn cymuned dawel lle mae pawb yn nabod ei gilydd.

“Mae’n gyfnod trist i’w theulu a’i ffrindiau a dwi’n cydymdeimlo â nhw i gyd,” meddai.

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd yr Aelod Seneddol lleol Jonathan Edwards a’r Aelod Cynulliad Rhodri Glyn Thomas eu bod nhw wedi tristau o glywed y newyddion.

“Rydyn ni’n deall y bydd hyn yn amser anodd i’r gymuned wrth iddi ddod i delerau â’r newyddion trist.

“Mae’n meddyliau a’n gweddïau gyda’r teulu, ffrindiau a chymdogion ar amser trist fel hyn.”

Dywedodd yr heddlu fod y gymuned yn parhau i’w cynorthwyo gyda’r ymchwiliad, a’u bod eisiau diolch iddyn nhw am eu cymorth hyd yn hyn.

Mae’r heddlu yn galw am unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai eu helpu gyda’u hymchwiliad i’w ffonio ar 101.