Prifysgol Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n derbyn rhagor o geisiadau gan ddarpar-fyfyrwyr i’r Brifysgol eleni.
Dywedodd y brifysgol eu bod nhw wedi derbyn nifer eithriadol o geisiadau gan ddarpar-fyfyrwyr eleni ac felly na fyddai ceisiadau ar ôl y dyddiad cau swyddogol, sef 15 Ionawr, yn cael eu derbyn.
Daw’r cyhoeddiad heddiw er gwaetha’r ffaith fod nifer y ceisiadau i Brifysgol Aberystwyth i lawr 5.98% eleni, o’u cymharu â’r llynedd.
Ond dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol wrth Golwg 360 fod cymharu 2010 a 2012 – sef “tebyg at ei debyg” gan fod rhuthr o geisiadau y llynedd cyn i ffioedd myfyrwyr gynyddu – yn dangos fod “nifer y ceisiadau wedi cynyddu 12.2%.”
Er hynny, mae’r gwasanaeth derbyn ceisiadau myfyrwyr UCAS hefyd wedi darogan tipyn o ostyngiad yn nifer y ceisiadau gan ddarpar-fyfyrwyr eleni, oherwydd y cynnydd mewn ffioedd prifysgol o fis Medi 2012 ymlaen.
Bydd myfyrwyr o’r tu allan i Gymru yn gorfod talu hyd at £9,000 am eu hastudiaethau o hyn ymlaen, ond mae Llywodraeth Cymru wedi addo mai traean o hynny fydd yn rhaid i fyfyrwyr o Gymru ei dalu, ac y byddan nhw’n ariannu’r gweddill.
Y ‘Rhestr Flaenoriaeth’
Er mwyn gallu fforddio talu’r gwahaniaeth yn ffioedd myfyrwyr Cymru, mae’r Llywodraeth wedi dweud eu bod nhw’n dibynnu ar gynnydd yn nifer y myfyrwyr o Loegr sy’n dod i Gymru i astudio – gan eu bod nhw’n talu’r gost llawn.
Ond mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyflwyno ‘rhestr flaenoriaethau’ o ran y pynciau y maen nhw’n fwyaf awyddus i’w hyrwyddo gan fod y costau’n uwch.
Mae’r ‘pynciau blaenoriaeth’ yma’n cynnwys Mathemateg, y Gwyddorau, a Ieithoedd Ewropeaidd.
Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystywth, yr Athro Martin Jones, heddiw fod y brifysgol wedi gweld “cynnydd sylweddol mewn ceisiadau i astudio pynciau sydd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru – Mathemateg, Ffiseg, a Ieithoedd Ewropeaidd.”
Dywedodd llefarydd ar ran y Brifysgol eu bod yn cynnig mwy o lefydd ar gyfer y ‘pynciau blaenoriaeth’ hyn eleni, gyda Ieithoedd Ewropeaidd yn cynnig 60 lle eleni, o’i gymharu â 50 y llynedd, Mathemateg yn cynnig 70 lle yn hytrach na 65, a Ffiseg yn cynnig 75 lle yn hytrach na 50.
HEFCW
Yn gynharach yn y mis, fe gyhoeddodd y corff sydd yn penderfynu ar niferoedd myfyrwyr israddedig Prifysgolion Cymru, HEFCW, y byddai mwy o lefydd yn cael eu cynnig ar draws Cymru yn y ‘pynciau blaenoriaeth’ hyn o 2013 ymlaen – tra bod y niferoedd sy’n cael gwneud pynciau eraill yn cael eu torri.
Mewn datganiad, dywedodd HEFCW fod trefniadau newydd hyn yn ffordd i sicrhau bod “ffioedd myfyrwyr yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau posibl i fynd i’r afael â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg uwch.”
Ond mae’r newidiadau wedi cael eu beirniadu gan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, sy’n dweud y bydd rheoli niferoedd myfyrwyr yn bygwth y ddarpariaeth addysg sydd ar gael i fyfyrwyr yng Nghymru.
Yn ôl Cadeirydd yr undeb yng Nghymru, Luke Young, mae angen “cymryd gofal” nad yw’r newidiadau yn “gosod straen ar y ddarpariaeth leol o leoedd mewn sefydliadau mewn rhannau o Gymru.”