Cafodd dwy ferch eu hachub oddi ar greigiau ger Dinbych-y-Pysgod yn Sir Benfro ar ôl anfon neges ar wefan Facebook.

Roedd y ddwy ferch, sydd yn eu harddegau, wedi anfon y neges ar y wefan gymdeithasol ar ôl mynd i drafferthion bnawn dydd Sul, er bod ganddyn nhw ffôn.

Yn ffodus, roedd un o’u ffrindiau, Ross Edwards, sydd hefyd yn wirfoddolwr gyda’r RNLI, wedi gweld y neges ac wedi eu cynghori i ffonio Gwylwyr y Glannau yn Aberdaugleddau.

Cafodd y ddwy ferch eu hachub oddi ar y creigiau ger Bae Waterwynch, yn Ninbych-y-Pysgod gan fad achub yr RNLI yn ddiweddarach.

Roedd y ddwy yn oer ond ni chawson nhw eu hanafu.

Rhybudd

Dywedodd Phil John, o RNLI Dinbych-y-Pysgod, ei fod yn “gyd-ddigwyddiad llwyr” bod un o’u gwirfoddolwyr yn digwydd bod ar wefan Facebook ar yr un pryd.

Ond fe rybuddiodd na fyddai’n  annog pobl i ddibynnu ar wefan gymdeithasol i ofyn am help os oedd ganddyn nhw ffôn gyda nhw.

“Yn hytrach fe ddylen nhw ffonio’r gwasanaethau brys os ydyn nhw mewn trafferth,” meddai.