Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enwau’r ddau ddyn gafodd eu lladd mewn damwain awyren yn ardal Tre’r Llai ger Y Trallwng ddydd Mercher diwethaf.

Bu farw Bob Jones, gŵr busnes lleol, ynghyd â’r peilot profiadol Steve Carr, 55 oed o Ruthin ar ôl i’r awyren fechan daro ochr mynydd.

Roedd yr awyren yn un injan ddwbl Piper PA31-325 Navajo.

Mae’r ymchwiliad i beth achosodd y ddamwain yn parhau.

Teyrnged

Bu teulu Bob Jones yn rhoi teyrnged iddo gan ddweud ei fod yn ŵr, tad a ffrind cariadus, yn beilot profiadol  ac yn uchel ei barch yn y gymuned a thu hwnt.

Dywedodd teulu Steve Carr eu bod wedi tristau yn ofnadwy gan y newyddion a bydd colled enfawr ar ei ôl. Roedd yn dad, gŵr, brawd a ffrind cariadus.

Mae teuluoedd y ddau ddyn wedi gofyn am gael llonydd i alaru.

Apêl am dystion

Yn y cyfamser mae’r heddlu’n apelio am dystion.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Greg Williams: “Rydyn ni’n gobeithio cael cymorth pobol a oedd yn ardal Tre’r Llai fore dydd Mercher.

“Os oedd unrhyw un yn tynnu lluniau yn yr ardal yma rhwng 11am a 11.30am rydyn ni eisiau cael gwybod.

“Rydyn ni hefyd yn gofyn i unrhyw un a glywodd yr awyren yn hedfan uwchben i gysylltu â ni.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 a gofyn am Swyddfa Heddlu’r Trallwng.