Cafodd siopau dillad Bonmarche, sy’n rhan o Grŵp Peacocks, eu gwerthu heddiw mewn cytundeb a fydd yn arwain at 1,400 o ddiswyddiadau a chau 160 o’u siopau.

Mae Sun European Partners, sy’n berchen Alexon a Jacques Vert, wedi prynu Bonmarche oedd ar fin cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.

Mae Sun European Partners wedi prynu’r gadwyn i gyd ar wahan i dri o’u siopau. Fe fydd Sun yn parhau i redeg 230 o’r siopau ond fe fydd yn cau tua 160.

Fe fydd 2,400 o weithwyr yn dal i gael eu cyflogi o’r gweithlu o 3,800.

Mae’r gweithwyr yn y siopau sy’n cau yn cael gwybod heddiw ac fe fydd y siopau’n cau yn y dyfodol agos. Dywed Sun ei bod yn rhy gynnar i ryddhau rhestr o’r siopau sydd i gau.

Cafodd Grŵp Peacocks ei roi yn nwylo’r derbynwyr wythnos ddiwethaf ar ôl, methu â dod i gyntundeb gyda’r banciau ynglyn â’u dyledion o £750 miliwn gan olygu bod 9,600 o swyddi yn y fantol.

Fe lwyddwyd i osgoi rhoi Bonmarche yn nwylo’r gweinyddwyr er mwyn caniatau i drafodaethau gyda phrynwyr barhau.

Dywedodd Chris Laverty o gwmni KPMG bod y cytundeb yn gam ymlaen i geisio sicrhau dyfodol Bonmarche.

Fe fydd y cytundeb  yn rhoi’r cyfle i weinyddwyr gesio dod o hyd i brynwr ar gyfer Peacocks, sydd â 563 o siopau a 48 o gonsesiynau.

Mae KPMG wedi cadw’r siopau ar agor tra’u bod nhw’n chwilio am brynwr. Wythnos ddiwethaf cafodd 249 o weithwyr ym mhencadlys Peacocks yng Nghaerdydd eu diswyddo – bron i hanner y gweithlu yno.