Bydd angen i “enw enfawr y mae pobl yn ei barchu” ddatgelu ei fod yn hoyw cyn y bydd trafodaeth o ddifrif am y peth yn y byd pêl-droed, meddai Phil Stead wrth Golwg360.
Daw ei sylwadau ar ôl I bapur newydd y Daily Star adrodd fod cyn-gapten Nottingham Forest , John McGovern, yn awgrymu mewn rhaglen ddogfen ar y BBC ei bod yn iawn galw chwaraewyr pêl-droed yn “poofs”.
Mae ymchwil gan y mudiad hawliau hoywon Stonewall yn dangos bod un o bob pedwar cefnogwr pêl-droed yn meddwl bod y gêm yn homoffobig, meddai Cyfarwyddwr yr elusen yng Nghymru.
Mae dros hanner y cefnogwyr o’r farn nad yw clybiau yn gwneud digon i daclo homoffobia. O’r holl bêl-droedwyr proffesiynol ym Mhrydain heddiw, sef tua 5,000, does yna ddim un sy’n agored hoyw.
Mae’r byd pêl-droed yn “gallu bod yn ddiwylliant plentynaidd a macho” yn ôl Phil Stead, colofnydd chwaraeon cylchgrawn Golwg.
“Dyw rhai Pêl-droedwyr jest ddim yn tyfu i fyny,” meddai’r colofnydd sydd wedi gweithio yn Reolwr Gwybodaeth i glwb pêl-droed Caerdydd yn y gorffennol.
‘Enw enfawr’
Bydd ffilm am rywioldeb o fewn y byd chwaraeon yn cael ei dangos ar BBC3 ddiwedd y mis – wedi’i chyflwyno gan nith Justin Fashanu.
Mi laddodd yr ymosodwr ei hun ar ôl datgelu ei rywioldeb i’r byd.
Ers i Justin Fashanu grogi ei hun yn 1998, does yr un pêl-droediwr proffesiynol proffil uchel wedi dweud yn agored ei fod yn hoyw.
“Mae am gymryd un enw enfawr y mae pobl yn ei barchu i ddod allan i ddechrau’r drafodaeth yn iawn,” meddai Phil Stead gan ychwanegu bod “wir angen trafod y sefyllfa.”
Er yn awyddus i osgoi gorgyffredinoli, mae Phil Stead yn gweld pêl-droed yn un anaeddfed.
“Doeddwn i ddim yn hoffi’r ddiwylliant hogiau yno. Synnwn i ddim mai’r rheswm bod rhai pêl-droedwyr yn methu dod allan ydi achos o’r diwylliant plentynnaidd sy’n gallu bodoli,” meddai. “Mae’n broblem gyda plant hefyd. Maen nhw’n deall fod bod yn hiliol yn anghywir. Ond dydyn nhw ddim yn meddwl ddwywaith am ddefnyddio’r gair “gay” mewn ffordd negyddol.
“Nid jest diwylliant peidio bod yn hoyw sydd yn y byd pêl-droed weithiau, ond peidio bod yn intellectual. Doeddwn i byth yn rhan o’r diwylliant. Roedden nhw’n fy ngalw i yn ‘Prof’ am fy mod i wedi bod i’r Coleg.”