Brendan Rodgers
Yn dilyn y fuddugoliaeth felys yn erbyn Arsenal, mae hyfforddwr Abertawe wedi herio’i dîm i barhau gyda’r chwarae clodwiw wrth iddyn nhw deithio i Sunderland y penwythnos yma.
Bydd yr Elyrch yn gwneud y daith faith i Ogledd Ddwyrain Lloegr ar gefn buddugoliaeth wych, a’r hyfforddwr yn galw ar ei chwaraewyr i godi i’r lefel nesaf.
Ond mae Sunderland dan eu hyfforddwr newydd Martin O’Neill, yn chwarae’n dda hefyd.
‘‘Rydym am ennill. Dyma ein nôd. Ond mae Sunderland wedi cipio canlyniadau da yn ddiweddar ac rydym yn gwybod ei fod yn her anodd i wynebu Sunderland,’’ meddai Brendan Rodgers.
‘‘Mae gen i barch tuag ato (O’Neill) fel hyfforddwr ac fel rheolwr. Mae wedi bod o gwmpas ers amser hir, ac yn deall y gêm ar y lefel uchaf ac mae ef wedi gwneud gwaith ardderchog hyd yn hyn,’’ ychwanegodd Rodgers.
Eleni mae’r Elyrch wedi bod ar dân yn yr Uwch Gynghrair. Mae’r cyfryngau cenedlaethol wedi body n clodfori Brendan Rodgers a’i chwaraewyr am basio eu ffordd i fuddugoliaeth.
Tate yn gwella
Yr wythnos mae Alan Tate wedi parhau i wella ar ôl iddo dorri ei goes fis Awst diwethaf.
Ond yn ôl Brendan Rodgers mae’n rhy fuan eto i Tate ddychwelyd i garfan tîm cyntaf Abertawe.
‘‘Mae’r penwythnos yma wedi dod yn rhy fuan i Alan. Mae wedi bod allan am amser hir, ond mae’n gwella yn gynt na’r disgwyl ac mae hynny yn glod iddo am yr holl waith y mae’n ei wneud gyda’r tîm meddygol,’’, meddai Rodgers.