Mae cyn-glwb Chris Coleman wedi cyhoeddi eu bwriad i ddwyn achos cyfreithiol yn erbyn Cymdeithas Bêl-droed Cymru, wedi iddo gael ei benodi’n reolwr y tîm cenedlaethol ddoe.
Roedd Coleman wedi gadael clwb Larissa yng Ngwlad Groeg yr wythnos ddiwetha’, gan ddweud mai problemau ariannol y clwb oedd y rheswm dros ei ymadawiad.
Ond o fewn oriau i’w gadarnhad yn reolwr Cymru hyd nes diwedd y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2014, sy’n gorffen fis Hydref 2013, roedd Larissa wedi gosod datganiad ar eu gwefan yn dweud bod Coleman yn parhau dan gontract gyda nhw.
“Rydym ni wedi cychwyn ar y broses gyfreithiol,” meddai llefarydd Larissa wrth y BBC, “er mwyn hawlio iawndal gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.
“Rydym hefyd yn barod i fynd â’r mater at FIFA.”