Lido Afan – Aberystwyth

Bydd Aberystwyth yn gobeithio am well lwc wrth droi eu golygon at gymal cyntaf rownd gyntaf Cwpan y Cynghrair y penwythnos hwn. Mae’r tîm Alan Morgan wedi cael rhan gyntaf siomedig iawn i’r tymor yn y gynghrair ond bydd cyfle iddynt anghofio am hynny brynhawn Sadwrn wrth deithio i Stadiwm Marstons i herio Lido Afan o flaen camerâu Sgorio.

Dim ond un gêm y mae Aber wedi ei hennill yn y saith gêm gynghrair ddiwethaf. Ac mae’r rhediad gwael hwnnw wedi achosi iddynt lithro i’r degfed safle yn yr Uwch Gynghrair o dan eu gwrthwynebwyr ddydd Sadwrn, Lido Afan. Wrth gwrs, codi o’r safle hwnnw pan fydd y gynghrair yn ail gydio ym mis Chwefror fydd blaenoriaeth Morgan rhwng nawr a diwedd y tymor ond gall rhediad da yn y gwpan godi hyder ei dîm.

Ac mae’r tîm hwnnw wedi colli ambell aelod dros yr wythnosau diwethaf hefyd. Mae Anthony Finselbach wedi gadael y clwb gan ymuno â Lido Afan ac mae’r ymosodwr, Lewis Codling, wedi gorfod gadael hefyd gan fod cyfrifoldebau gwaith yn golygu bod rhaid iddo symud i Lundain.

Ond mae Morgan yn hyderus y gall gryfhau ei garfan cyn i’r ffenestr drosglwyddo gau.

“Ry’n ni wedi colli Lewis a Fins, ond rwyf yn gobeithio dod ag un neu ddau o chwaraewyr newydd i’r clwb a bydd rhaid i ni weithio’n galed er mwyn symud ymlaen o’r fan hyn… mae’n rhaid i ni aros yn bositif.”

Ac yn wir, mae Morgan eisoes wedi arwyddo ymosodwr i gymryd lle Codling. Mae Josh Shaw wedi symud i Goedlan y Parc o’r clwb lleol, Penrhyncoch. Mae Shaw wedi sgorio digon o goliau ar lefel is a gobaith Aberystwyth yw y gall y chwaraewr 21 mlwydd oed wneud hynny yn yr Uwch Gynghrair hefyd.

Ac mae dirfawr angen y goliau ar Aber hefyd. Dim ond Codling sydd wedi rhwydo mwy na phedair o weithiau iddynt y tymor hwn felly bydd Morgan yn gobeithio y gall Shaw ddangos ei ddoniau yn syth gan ddechrau yn Stadiwm Marstons ddydd Sadwrn.

Gêm gyfartal ddi sgôr a gafwyd yno rhwng y ddau dîm yn y gynghrair ym mis Medi a chyfartal oedd hi hefyd yng Nghoedlan y Parc ym mis Tachwedd. Un yr un oedd y sgôr y tro hwn gyda’r chwaraewr canol cae, Sean Thornton, yn sgorio i Aber. Ond ni fydd Thornton ar gael ddydd Sadwrn gan ei fod wedi ei wahardd ar ôl derbyn ei ail gerdyn coch o’r tymor yn erbyn Caerfyrddin yng ngêm ddiwethaf y clwb.

Mae Sgorio yn dechrau am 15:00 gyda’r gic gyntaf o Stadiwm Marstons am 15:45.