Lido Afan – Aberystwyth
Bydd Lido Afan yn awyddus i barhau â’u rhediad da diweddar yn yr Uwch Gynghrair wrth groesawu Aberystwyth a chamerâu Sgorio i Stadiwm Marstons ar gyfer cymal cyntaf rownd gyntaf Cwpan y Cynghrair ddydd Sadwrn. Ar ôl dechrau araf i’r tymor mae tîm Andy Dyer wedi deffro dros y ddeufis diwethaf ac ar wahân i Airbus hwy oedd y tîm gorau yn hanner isaf y tabl dros y ddeg gêm ddiwethaf.
Efallai bod Lido wedi colli eu dwy gêm gynghrair ddiwethaf ond roeddynt yn ddi guro mewn pum gêm cyn hynny ac felly byddant yn ddigon hyderus wrth groesawu Aberystwyth brynhawn Sadwrn.
Di sgôr oedd hi pan gyfarfu’r ddau dîm yn Stadiwm Marstons fis Medi a chyfartal oedd hi yn y gêm gyfatebol yn Aberystwyth fis Tachwedd hefyd. Mark Jones oedd sgoriwr Lido y diwrnod hwnnw a bydd y blaenwr yn awyddus i ychwanegu at ei chwe gôl y tymor hwn yn erbyn Aber ddydd Sadwrn.
Mae Andy Dyer wedi bod yn brysur iawn yn cryfhau ei garfan dros yr wythnosau diwethaf a bydd y gêm ddydd Sadwrn yn gyfle iddo gael golwg arall ar ambell un o’r pum chwaraewr y mae eisoes wedi ei arwyddo yn y ffenestr drosglwyddo. Fe ddechreuodd Anthony Finselbach a Chad Bond y gêm yn erbyn y Bala’r wythnos diwethaf a daeth Liam Thomas ac Alex Rickett oddi ar y fainc yn yr ail hanner. Bydd y pedwar ohonynt yn ogystal â’r asgellwr, Shane Williams, yn awyddus i greu argraff eto’r penwythnos hwn.
Hon yw’r gyntaf o dair gêm rhwng y ddau dîm dros y pythefnos nesaf gan eu bod yn wynebu ei gilydd yng ngêm gyntaf ail ran yr Uwch Gynghrair ychydig ddyddiau ar ôl ail gymal rownd gyntaf y gwpan hon yng Nghoedlan y Parc. Does dim dwywaith mai’r drydedd gêm fydd bwysicaf i Lido Afan wrth iddynt ddechrau’r frwydr am y seithfed safle yn y gynghrair ond bydd Andy Dyer yn awyddus i gael rhediad da yn y gwpan hefyd.
Mae Sgorio yn dechrau am 15:00 gyda’r gic gyntaf o Stadiwm Marstons am 15:45.