A fydd Chris Coleman a Raymond Verheijen yn gallu cydweitho?
Mae gan Chris Coleman sawl her yn ei wynebu ar y cae pêl-droed yn ystod y misoedd nesaf, ond yr her gyntaf fydd ganddo fel rheolwr pêl-droed newydd Cymru fydd rhoi trefn ar ei dîm rheoli, a’i dîm ar y cae.
Wrth drafod y camau nesaf y prynhawn yma, dywedodd Chris Coleman bod angen iddo gael sgwrs gyda sawl person cyn penderfynu sut siâp fydd ar y ddau.
“Dwi wedi siarad gyda rhai o’r chwaraewyr yn barod,” meddai Chris Coleman heddiw, “a fydda’i wedi cael cyfle i siarad gyda nhw i gyd cyn bo hir.”
Mae rhai o’r chwaraewyr wedi bod yn llafar iawn eu barn am ddyfodol rheolaeth y tîm cenedlaethol dros yr wythnosau’n arwain at y penodiad heddiw, gyda’r capten Aaron Ramsey, a’r asgellwr Gareth Bale yn eu plith.
Roedd y ddau, Ramsey a Bale, wedi awgrymu y bydden nhw’n ffafrio gweld yr is-reolwr Raymond Varheijen a’r hyfforddwr Osian Roberts yn cymryd yr awenau, er mwyn sicrhau parhad yng ngwaith y tîm dan reolaeth Gary Speed.
Angen parch y chwaraewyr
Gallai hyn fod yn broblem i’r rheolwr newydd, yn ôl y sylwebydd pêl-droed Meilyr Owen.
“Mae ganddo brofiad fel rheolwr, oes, ac mae’n gyn chwaraewr rhyngwladol. Ond y peth pwysicaf iddo’i wneud fan hyn ydi ennyn parch y chwaraewyr o’r funud gynta’,” meddai.
Wrth siarad â’r wasg prynhawn yma, dywedodd Chris Coleman ei fod yn ymwybodol o sylwadau’r chwaraewyr, a rhai Aaron Ramsey yn benodol, a dywedodd ei fod yn “deall awydd” y capten i gadw’r cysondeb yn rheolaeth y tîm.
“Dwi wedi siarad gyda rhai o’r chwaraewyr yn barod… a dwi wedi siarad gydag Aaron Ramsey,” meddai.
“Dwi ddim yma i rwygo popeth fyny,” meddai, “ond dyn ’yn hun ydw i.”
Dyw hi ddim yn glir eto a fydd Aron Ramsey yn cadw’i le fel capten y tîm cenedlaethol, a doedd Chris Coleman ddim yn barod i gadarnhau un ffordd neu’r llall y prynhawn yma.
Trefnu’r tîm wrth gefn
Her arall fydd yn wynebu’r rheolwr newydd fydd sicrhau tîm rheoli effeithio tu ôl iddo.
Mae’r her yn mynd i fod yn arbennig o anodd yn achos y berthynas rhwng y rheolwr newydd a’r is-reolwr Raymond Verheijen, sydd wedi beirniadu penderfyniad Cymdeithas Pêl-droed Cymru i chwilio am reolwr newydd dros yr wythnosau diwethaf.
Mae’r is-reolwr, fu’n rhan o dîm rheoli’r diweddar Gary Speed, wedi galw ar y Gymdeithas i adael y tîm yn ei ddwylo ef a’r hyfforddwr Osian Roberts.
Yn y diweddaraf o gyfres o drydar dadleuol gan Verheijen yn ddiweddar, fe bostiodd yr is-reolwr y neges yma ar ei gyfri Twitter ddoe:
“Mae Cymru’n ennill. Ond y chwaraewyr a’r staff sy’n dal i orfod esbonio ac amddiffyn eu hunain pan eu bod nhw’n gofyn am barhad. Mae’r byd ben i waered.”
Dywedodd Chris Coleman ei fod wedi gweld sylwadau Raymond Verheijen yn ddiweddar, ond cyfaddefodd nad oedd wedi siarad gydag e hyd yn hyn.
Ond dywedodd heddiw fod yna “sgyrsiau sydd angen eu cael gyda rhai pobol.”
Swydd i Symons?
Mae peth dyfalu y gallai Chris Coleman droi at Kit Symons, rheolwr tîm dan-18 Fulham, i ddod i ymuno â’r tîm rheoli, ac roedd y rheolwr newydd yn ganmoladwy iawn o waith Symonds gyda thîm ieuenctid Fulham wrth sôn amdano heddiw.
Ond dydi’r sylwebydd pêl-droed Meilyr Owen ddim yn gweld gormod o newidiadau’n digwydd yn y tîm rheoli, na’r tîm ar y cae, am y tro.
“Dwi’n meddwl ei fod am gadw pethau fel ag y maen nhw o ran y tîm,” meddai, “ond ei swydd o fel rheolwr ydi newid pethau os oes angen. Fel y dywedodd Coleman ei hun ‘if it ain’t broke, don’t fix it’.”
Wrth edrych i’r dyfodol, dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Jonathan Ford mai edrych ymlaen at Gwpan y Byd, Brazil, oedd y peth pwysig nawr.
“Y nod gyda Gary Speed oedd Brasil 2014 – a dyna’r nod sydd yn dal gyda ni heddiw,” meddai.
Gohebwyr: Catrin Haf Jones a Gareth Pennant