Nigel Davies
Mae hyfforddwr y Scarlets Nigel Davies wedi canmol Lou Reed ar ôl i’r ail-reng gael ei ddewis i garfan hyfforddi Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Yn wreiddiol o Dreorci, mae Reed wedi chwarae dros gant o weithiau i’r rhanbarth ers ymuno yn 2006 gyda’r Scarlets.

Yr oedd y chwaraewr 24  oed wedi cael ei gynnwys yng ngharfan estynedig Cymru yng Nghwpan y Byd a deithiodd i Wlad Pwyl yn yr haf y llynedd.

‘‘Rwyf yn falch gyda’r ffordd y mae’r ail-reng wedi chwarae y tymor yma, ac mae’r ddau Lou a Dom Day wedi bod yn chwarae’n dda,’’ meddai Davies.

‘‘Mae Lou yn cynnwys ei hun llawer mwy yn y gemau yn ddiweddar, ac yn cario’r bêl yn effeithiol.  Hefyd mae ganddo’r gallu i arwain y lein sydd yn hynod o bwysig y dyddiau yma,’’ ychwanegodd Davies.

Mae Reed yn un o dri chwaraewr y Scarlets a gafodd ei enwi yng ngharfan y Chwe Gwlad ac sydd heb dderbyn capiau rhyngwladol, gyda’r prop Rhodri Jones a’r cefnwr/asgellwr Liam Williams yn ceisio ennill eu capiau rhyngwladol gyntaf.