Scott Johnson
Mae hyfforddwr y Gweilch Scott Johnson wedi wfftio galwadau gan gyn Gapten Cymru, Jonathan Davies, arno i roi’r gorau i’w swydd fel hyfforddwr.

Dywedodd Davies yr wythnos ddiwethaf bod angen i Johnson adael ei swydd ar unwaith a gadael i Sean Holley a Jonathan Humphreys i fod yn gyfrifol am hyfforddi’r Gweilch.

Mewn cyfweliad gyda’r Western Mail dywedodd Scott Johnson: ‘‘Rwyf wedi cael cytundeb tair blynedd gyda’r Gweilch, ac fy mwriad yw cyflawni fy ymrwymiad oherwydd bod y rhanbarth yma yn bwysig i mi,’’ meddai Scott Johnson.

‘‘Dydw i ddim yn poeni beth mae pobl eraill yn ei feddwl, ond rhan fwayf o’r amser, mae pobl yn seilio barn ar beth maen nhw’n ei deimlo, nid ffaith,’’ dywedodd Johnson.

‘‘Dydw i ddim yn gwylio teledu Cymraeg na darllen papurau Cymraeg.  Does dim ots gennyf.  Rwy’n dod i’r gwaith bob dydd ac yn gwneud fy ngorau glas.  Rwyf wedi gwneud yr hyn a oedd yn iawn yn fy marn i,’’ ychwanegodd.

Credai Johnson fod y rhanbarth wedi bod yn llwyddiannus mewn datblygu llwybr hyfforddi ers iddo gyrraedd yn Stadiwm y Liberty.  Ond mae’n canmol Sean Holley a Jonathan Humphreys am eu datblygiad fel cynorthwywyr iddo.

‘‘Mae datblygiad Sean Holley a Jonathan Humphreys wedi bod yn wych, ac mae yna eraill fel Steve Tandy sydd wedi datblygu’n dda,’’ meddai Johnson.

Yn ogystal mae Johnson wedi cael ei holi, a yw Cymru wedi meddwl am olynydd i Warren Gatland.

Mae’r rhanbarth yn ail yn nhabl y Pro12 ac ar ddydd Sul fe fydd y Gweilch yn herio Biaritz yng nghwpan  Heineken.