Chris Coleman

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau mai Chris Coleman yw rheolwr newydd tîm cenedlaethol.

Daeth y newyddion mewn cynhadledd arbennig a drefnwyd y prynhawn yma yng Ngwesty Dewi Sant Caerdydd.

Wrth drafod y penodiad y prynhawn yma, dywedodd Chris Coleman fod y profiad yn un “chwerw-felys” oherwydd amgylchiadau marwolaeth Gary Speed, ac mai dyna’r “cynhadledd i’r wasg anoddaf i mi ei wneud erioed.”

Mae’r rheolwr newydd, oedd yn ffrind i Gary Speed ers 30 mlynedd, wedi bod yn ffefryn amlwg i gael ei benodi ers iddo adael ei swydd yn rheoli tîm Larissa yng Ngwlad Groeg yr wythnos diwethaf.

Dilyn Gary…

Wrth dalu teyrnged i’r cyn reolwr, Gary Speed, a fu farw ddiwedd Tachwedd 2011, dywedodd Chris Coleman ei fod yn “ddyn arbennig”.

“Gallwch chi ddim disodli rhywun fel ’na, a ’dwi ddim yn golygu mewn pêl-droed, dwi’n golygu mewn bywyd yn gyffredinol,” meddai.

Dywedodd hefyd ei fod eisiau siarad â theulu Gary Speed am y penodiad, ond nad yw’n gwybod eto beth i ddweud wrthyn nhw.

Cadarnhaodd Prif Weithredwr Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Jonathan Ford, fod y gymdeithas wedi “ymgynghori” â theulu Gary Speed a’u bod yn gwybod am benodiad Chris Coleman.

Ond heddiw, dywedodd y rheolwr newydd nad oedd ganddo ddewis ond derbyn y cynnig i arwain tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru pan ddaeth y cyfle.

“Pan fod eich gwlad chi’n gofyn i chi gymryd yr awenau, mae e’n alwad na allwch chi ei wrthod,” meddai.

Dywedodd y rheolwr newydd ei fod yn gobeithio parhau gyda’r gwaith da yr oedd Gary Speed wedi ei wneud gyda’r tîm cenedlaethol.

Roedd Ryan Giggs, John Hartson ac Ian Rush ymysg yr enwau eraill oedd yn cael eu crybwyll i lenwi’r swydd.