Chris Coleman
Fe fydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n cyhoeddi heddiw mai Chris Coleman fydd rheolwr newydd y tîm cenedlaethol.

Maen nhw wedi galw cynhadledd i’r wasg ar gyfer amser cinio a’r disgwyl yw y bydd y penodiad yn cael ei gadarnhau bryd hynny.

Fe fydd yn cymryd lle Gary Speed a fu farw’n annisgwyl y llynedd ac mae’n bosib mai ei gêm gynta’ wrth y llyw fydd y gêm yn erbyn Costa Rica i gofio am ei ragflaenydd.

Pa dîm hyfforddi

Un o’r cwestiynau mawr fydd dewis cyn-reolwr Fulham a Coventry o dîm hyfforddi – mae’r chwaraewyr, gan gynnwys y capten Aaron Ramsey, wedi gwneud yn glir eu bod nhw eisiau cadw’r ddau hyfforddwr, Osian Roberts a Raymond Verheijen.

Yr wythnos ddiwetha’, roedd Chris Coleman wedi gwneud yn glir y byddai’n fodlon ystyried hynny ond mae rheolwyr yn aml yn dod â’u staff eu hunain gyda nhw.

Roedd y cyn-amddiffynnwr rhyngwladol 41 oed wedi cael cyfnodau llwyddiannus yn rheoli Fulham a Real Sociedad ond cyfnod anffodus yn Coventry.