Andy Morrell
Roedd Wrecsam yn haeddu ennill y gem yn erbyn Brighton neithiwr yn ol Huw Ifor, gohebydd CPD Wrecsam…
Fel cefnogwr Wrecsam roedd yn rhaid nodi rhywbeth am y gem heno. Dim stori manwl o holl ddigwyddiadau’r gem oherwydd mae rheini yn niwl yn fy mhen wedi’w chwyrlio o gwmpas gan swn y cae ras. Roedd perfformiad pob un o chwaraewyr Wrecsam heno yn anhygoel. Roedd naws y gem a’r dorf yn anhygoel.
Roedd gol Andy Morrell wedi rhediad cryf Danny Wright yn haeddu ennill unrhyw gem ac roedd Wrecsam yn sicr yn haeddu ennill y gem hon. Mae pel droed yn gem graelon, dyna pam mae hi’n gem sy’n ennyn cymaint o ddiddordeb mae’n debyg.
Mae fforwm cefnogwyr Brighton yn gytun eu bod wedi cael crasfa gan dim da iawn a’u bod yn lwcus iawn. Rydw i fel cefnogwr yn eithriadol o hapus fy mod wedi cael y pleser o weld gem bythgofiadwy ac mae hynny i mi yn deimlad cryfach na’r siom o beidio cael wynebu Newcastle yn y cae ras.
Mae hi’n hwyr, af i’n ngwely heno yn breuddwydio bod cyfle Clarke, Morrell, Cizzy, Yr Anghenfil, Obeng neu Little wedi gorwedd yn destlys yng nghefn y rhwyd cyn deffro fory i realaeth ciciau o’r smotyn.