Morrell - Sgoriwr Wrecsam
Wrecsam 1–1 Brighton (Brighton yn ennill ar ôl C.O.S.)

Cafwyd perfformiad arwrol gan Wrecsam yng ngêm ail chwarae trydedd rownd y Cwpan FA ar y Cae Ras heno ond Brighton aeth a hi yn y diwedd ar ôl amser ychwanegol a chiciau o’r smotyn. Chwaraeodd y Dreigiau yn wych am dros ddwy awr ac roedd hi’n edrych am gyfnod fel bod gôl Andy Morrell yn yr hanner cyntaf yn mynd i fod yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth enwog iddynt. Ond yn ôl y daeth y tîm o’r Bencampwriaeth cyn i’r ciciau o’r smotyn dorri calonnau’r tîm o ogledd Cymru.

Hanner Cyntaf

Dim ond un tîm oedd ynddi yn chwarter cyntaf y gêm a Wrecsam oedd hwnnw. Cafodd yr amddiffynnwr canol, Nathaniel Knight-Percival, gyfle gwych wedi pedwar munud ond peniodd capten y Dreigiau heibio i’r postyn pan ddylai fod wedi gwneud yn well.

Yna, daeth cyfle da i Morrell wrth i’r bêl ddisgyn iddo yn y cwrt cosbi wedi cic rydd o’r chwith. Adlamodd y bêl braidd yn angharedig i Morrell ond gorfododd ei ergyd arbediad da gan Peter Brezovan yn y gôl i Brighton serch hynny cyn i Jamie Tolley ergydio’r ail gynnig dros y trawst.

Roedd yr ymosodwr cryf, Danny Wright, yn ddraenen gyson yn ystlys amddiffynnwyr Brighton ar yr asgell chwith a’i waith caled ef a greodd y gôl agoriadol hanner ffordd trwy’r hanner. Dangosodd Wright ddyfalbarhad er mwyn curo dau chwaraewr Brighton cyn chwarae’r bêl i Morrell ar ochr y cwrt cosbi a chrymanodd y chwaraewr reolwr ergyd hyfryd i gornel uchaf y rhwyd o 20 llath. Gôl wych a’r Dreigiau ar y blaen wedi 23 munud.

Dechreuodd Brighton ddod fwyfwy i’r gêm wedi hynny ond wnaethon nhw ddim poeni Joslain Mayebi rhwng y pyst i’r tîm cartref serch hynny.

Ac yn wir, cafodd Wrecsam un cyfle bach arall cyn yr egwyl yn dilyn gwaith da gan Wright ar y chwith unwaith eto. Daeth y bêl i Jay Harris y tro hwn 25 llath o’r gôl ond arbedodd Brezovan yn  gyfforddus.

Ail Hanner

Dechreuodd Wrecsam yr ail hanner yn fywiog hefyd a chawsant hanner cyfle wedi dim ond dau funud o’r ail gyfnod. Creodd cyd chwarae rhwng Adrian Cieslewicz a Curtis Obeng gyfle i Obeng ar ochr dde’r cwrt cosbi ond gwnaeth Brezovan yn dda i atal yr ergyd wrth i’r amddiffynnwr de geisio codi’r bêl drosto.

Bu rhaid i Wright, un o chwaraewyr amlycaf Wrecsam yn yr hanner cyntaf, adael y cae wedi ychydig dros ddeg munud o’r ail hanner ar ôl derbyn anaf cas wrth ddisgyn. Glen Little oedd yr eilydd a chafodd gyfle da i ddyblu mantais ei dîm wedi dim ond pum munud ar y cae yn dilyn gwaith da gan Morrell yn y cwrt cosbi ond ergydiodd yr eilydd yn rhy uchel a heibio i’r postyn o 12 llath.

Ac roedd Wrecsam yn difaru methu eu cyfleoedd wedi 77 munud pan unionodd Ashley Barnes y sgôr i’r ymwelwyr. Croesodd Mathew Sparrow i ganol y cwrt chwech a pheniodd yr eilydd, Barnes, yn wych i gornel uchaf y rhwyd. Gôl dda i Brighton ond amddiffyn Wrecsam braidd yn siomedig am y tro cyntaf yn y gêm.

Daeth hanner cyfle i Harris roi’r tîm cartref yn ôl ar y blaen wedi 80 munud yn dilyn gwrthymosodiad da gan y Dreigiau ond peniodd dros y trawst. A Phenio dros y trawst a wnaeth Joe Clarke hefyd yn y pumed munud o’r amser a ganiateir am anafiadau wrth i’r 90 munud orffen yn gyfartal.

Amser Ychwanegol

Doedd dim amdani ond amser ychwanegol felly a Wrecsam a ddechreuodd orau unwaith yn rhagor. Cafodd Mark Creighton gyfle da wedi pedwar munud ond er bod peniad yr amddiffynnwr yn nerthol roedd yn rhy agos at Brezovan.

Yna, daeth cyfle gwych i eilydd Brighton, Torbjorn Agdestein, yn y pen arall ond arbedodd  Mayebi yn wych. Cafodd Little a’r eilydd, Johnny Hunt hanner cyfleoedd i’r Dreigiau hefyd cyn yr egwyl ond aros yn gyfartal a wnaeth hi.

Cafwyd mwy o gyffro yn ail hanner wrth i Wrecsam hawlio cic o’r smotyn pan ddisgynnodd Obeng yn y cwrt cosbi. Gwrthod ei rhoi hi a wnaeth y dyfarnwr a bu bron i Brighton sgorio yn y pen arall lai na munud yn ddiweddarach ond arbedodd Mayebi ergyd Romain Vincelot yn wych.

A daeth un cyfle hwyr yn y munud olaf hefyd wrth i Wrecsam wrthymosod yn gyflym ond peniodd Harris yn erbyn y trawst.

Ciciau o’r Smotyn

Roedd Wrecsam yn haeddu ennill y gêm ond bu rhaid iddynt ddibynnu ar loteri ciciau o’r smotyn yn y diwedd.

Yn anffodus, methodd Dean Keates gic gyntaf y Dreigiau ac er i Clarke, Hunt, Ashton a Little lwyddo i’r tîm cartref wedi hynny fe sgoriodd Brighton bump allan o bump. Doedd gan Mayebi ddim gobaith gyda’r bedair gic gyntaf wrth iddynt i gyd fynd i’r corneli ac ergydiodd Craig Mackail-Smith yn galed lawr y canol er mwyn ennill y gêm i’r ymwelwyr gyda’r gic olaf.

Canlyniad siomedig ond perfformiad gwych gan y tîm o Uwch Gynghrair y Blue Square felly, a chanolbwyntio ar y gynghrair honno fydd tasg tîm Andy Morrell o nawr tan ddiwedd y tymor.