Gavin Henson
Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Yn y garfan o 35, mae Gavin Henson wedi ei enwi, a mae Sam Warburton yn cadw’r gapetiniaeth.
Mae’r triawd sy’n chwarae rygbi yn Ffrainc, James Hook, Lee Byrne, a Mike Phillips, sydd wedi mynychu dim ond tri diwrnod o ymarfer â’r tîm yng Nghwlad Pwyl, hefyd wedi cael eu cynnwys.
Mae Jamie Roberts hefyd yn y garfan er gwaethaf anaf i’w ben glin, tra bod Stephen Jones a Dwayne Peel yn cael eu gadael allan o’r garfan.
Chwech chwaraewr di-gap sydd wedi eu cynnwys – Ashley Beck a Rhys Webb o’r Gweilch, asgwellwr y Gleision Harry Robinson, a triawd y Scarlets Liam Williams, Rhodri Jones a Lou Reed.
Mae rhan fwyaf o garfan Cwpan y Byd yn cadw eu lle, gyda dim ond pedwar chwaraewr a wnaeth ddim ymddangos yn y garfan estynedig o 45 cyn Cwpan y Byd neu’r gêm yn erbyn Awstralia fis Rhagfyr yn cael eu cynnwys, sef Gill, Beck, Webb a Robinson.
“Roedd rhaid ffeindio balans gyda’r garfan” meddai Gatland.
“Rydym yn rhoi cyfle i gwpwl o chwaraewyr ifanc cyn torri’r garfán hyd yn oed yn llai cyn dechrau’r bencampwriaeth.
“Gyda rhai o’r chwaraewyr profiadol yn cario anafiadau fel Alun Wyn Jones a Josh Turnbull, mae’r pwyslais ar ddatblygiad a chynullunio at y dyfodol yn amlwg.
“Mi naethon ni ddangos ein gallu i bawb yng Nghwpan y Byd a rydym am weithio mor galed a phosib i drio cyrraedd ein potensial ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
“Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i rygbi Cymru,” meddai.
Cefnwyr: Mike PHILLIPS, Lloyd WILLIAMS, Rhys WEBB, Rhys PRIESTLAND, James HOOK, Jamie ROBERTS, Jonathan DAVIES, Scott WILLIAMS, Gavin HENSON, Ashley BECK, George NORTH, Leigh HALFPENNY, Alex CUTHBERT, Harry ROBINSON, Liam WILLIAMS, Lee BYRNE
Blaenwyr: Craig MITCHELL, Adam JONES, Ryan BEVINGTON, Gethin JENKINS, Paul JAMES, Rhys GILL, Rhodri JONES, Matthew REES, Huw BENNETT, Ken OWENS, Bradley DAVIES, Ian EVANS, Lou REED, Ryan JONES, Dan LYDIATE, Sam WARBURTON, Justin TIPURIC, Toby FALETAU, Andy POWELL