Ryan Giggs
Mae Ryan Giggs a David Beckham ymysg 184 o 191 o chwaraewyr y mae’r Gymdeithas Bêl Droed wedi cysylltu a nhw sydd wedi dangos diddordeb mewn cael eu hystyried i chwarae dros Team GB yn y Gemau Olympaidd.

Mae Giggs ymysg nifer o Gymry i gael gwahoddiad i’r tim yn ogystal a Gareth Bale, Aaron Ramsey, Joe Allen, Ashley Williams ag Adam Mathews.

Mae chwaraewyr Caerdydd Peter Whittingam a Kenny Miller yn ogystal a Steven Caulker o Abertawe hefyd wedi cael gwahoddiad.

Dim ond saith chwaraewr o’r 191 sydd wedi dweud na allen nhw chwarae, gyda rheiny’n dod o glybiau gwahanol ar draws Prydain.

Mae Cymdeithas Bêl Droed Cymru yn erbyn y synaid o’i chwaraewyr yn chwarae dros dim Prydeinig, gan ofni y gall hyn fygwth ei hannibyniaeth o fewn FIFA.

Bu ymateb chwyrn gan y Gymdeithas y llynedd ar ôl i Bale a Ramsey gael tynnu eu llyniau yn gwisgo’r crys Team GB.

Dywedodd cyfarwyddwr cyfathrebu Cymdeithas Olympaidd Prydain Darryl Seibel:  “Mae hwn yn ymateb gwych ac yn cadarnhau fod ddiddordeb eang ymysg y chwaraewyr i chwarae dros Team GB yng ngemau Llundain 2012.

“Yn amlwg, mae’r chwaraewyr yn sylwi ei fod yn gyfle arbennig.”