Mae’r gêm rhwng Wrecsam  a Brighton yng Nghwpan FA heno wedi ei gohirio gan fod y cae wedi rhewi.

Cafodd y penderfyniad ei wneud y bore ‘ma ar ôl i’r Cae Ras rewi dros nos.

Mae’r clwb yn gobeithio ail chwarae’r gêm nos yfory am 7:15pm.

Mewn datganiad, dyweddodd  y clwb: “Rydym yn gobeithio ail chwarae’r gêm nos yfory (nos Fercher) â’r gic gyntaf ychydig yng nghynt am 7.15pm.

“Dydi hyn heb gael ei gadarnhau eto, ond gyda’r tymheredd fod i droi er gwell nos Fawrth, rydym yn hyderus y gall y gêm fynd yn ei blaen.”

Mae Sgorio’n darlledu’r gêm yn fyw ar S4C gyda’r rhaglen yn cychwyn am 7pm.