Nathan Dyer
Mae rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers yn credu fod Scott Sinclair, Nathan Dyer a Danny Graham yn haeddu lle yn nhim Fabio Capello, rheolwr Lloegr.
Yn dilyn ymweliad yr Eidalwr a Stadiwm Liberty dros y penwythnos, gyda Graham a Dyer yn sgorio, credai Rodgers fod eu perfformiadau wedi synnu Capello.
“Mi oedd y triawd blaen yn fygythiad mawr drwy’r gêm. Sgoriodd Graham a Dyer goliau gwych, a dwi’n siwr fod eu perfformiadau wedi rhoi rhywbeth i Capello ystyried.
“Y fantais sydd ganddom ydi fod ein chwaraewyr yn chwarae steil sy’n addas ar gyfer safon rhyngwladol, felly buasai’r chwaraewyr yn dal eu tir ar y lefel yna, does gen i ddim amheuaeth am hynny.”
Yn ôl cyn ymosodwr Norwich a Cymru, Iwan Roberts, mae’r chwaraewyr ifanc yn llawn haeddu y cyfle i ddangos eu doniau ar lefel ryngwladol.
“Mae’n debyg fod Capello yn y gêm brynhawn ddoe i edrych ar chwaraewyr Arsenal, ond mi gafodd o’i synnu ar berfformiadau rhai o sêr ifanc Abertawe, fyswn i’n tybio,” dywedodd Iwan Roberts wrth Golwg360.
“Mae Graham yn sgorio goliau, a does yna ddim llawer o ymosodwyr Lloegr yn gwneud hynny ar hyn o bryd, a mae Nathan Dyer yn edrych yn beryglus bob amser mae’n cael y bêl.
“Os nad ydi Capello yn rhoi cyfle iddynt, dydi o ddim am weld eu talent.”
Mae amryw o chwaraewyr Abertawe wedi cael ei cystylltu gyda symudiad i ffwrdd o Stadiwm Liberty yn dilyn eu perfformiadau disglair yn ddiweddar yn cynnwys Scott Sinclair a Neil Taylor. Ond credai Iwan Roberts y dylai’r chwaraewyr anwybyddu’r sion a chanolbwyntio ar eu pêl droed.
“Mae Abertawe yn glwb ar i fyny, ac yn mynd i lefydd. Gan ei bod nhw’n chwarae mor dda, mae’n anochel iddyn nhw beidio a chael eu cystylltu â rhai o dimau mawr Lloegr. Gobeithio y gall Abertawe sefydlu eu hunain yn yr Uwch Gynghrair, a cadw ei chwaraewyr ifanc.
“Mae Brendan Rodgers yn reolwr ifanc, cyffrous sydd am edrych ar ôl y chwaraewyr ifanc. Ar hyn o bryd mae popeth y buasai’r chwaraewyr eisiau yn Abertawe”.