Dangosodd Abertawe bod eu harddull, eu cymeriad a’u gwaith caled yn golygu eu bod yn medru cystadlu gyda’r timau gorau, meddai gohebydd CPD Abertawe Guto Llewelyn…

Ar 16 Ionawr, 2003, disgynnodd Abertawe i’r pedwerydd safle ar hugain yn yr ail gynghrair, safle isa’r gynhrair Saesneg.  Naw mlynedd yn ddiweddarach roeddent yn paratoi i wynebu un o glybiau mwya’r byd, Arsenal;  naid anferthol mewn llai na degawd.

Ers y grasfa yn erbyn Manchester City ar benwythnos agoriadol y tymor mae Abertawe wedi datblygu’n raddol a dysgu’n gyflym.

Roedd pwynt cynta’r tymor yn erbyn Wigan, tim  Roberto Martinez, yn gam pwysig.  Pwysicach fyth oedd y fuddugoliaeth gyntaf tair gêm yn hwyrach yn erbyn West Brom. Cafwydd diwrnod i’r Brenin yn Anfield pan gymeradwywyd tîm Brendan Rodgers gan gefnogwyr Lerpwl, yn dilyn gêm ddi-sgôr.

Ar Nos Galan sgoriodd Scott Sinclair i gipio pwynt yn erbyn Spurs. Dechreuodd y flwyddyn newydd yn hynod addawol wrth i’r Elyrch guro Aston Villa o ddwy gôl i ddim; eu buddugoliaeth gyntaf oddi cartref ym Mhrif Gynhrair Lloegr.

Yn wir mae hanner cyntaf y tymor wedi bod yn un anhygoel i gefnogwyr Abertawe, ond roeddent yn dal i aros am fuddugoliaeth yn erbyn un o’r clybiau mwyaf. Serch eu holl ymdrechion roedd cefnogwyr yr Elyrch yn awchu am y canlyniad bythgofiadwy fuasai’n gwerthu tîm ail ddinas Cymru i’r byd.

Cyn y gȇm canolbwyntiodd y cyfryngau ar un dyn yn unig, Thierry Henry. Wythnos ddiwetha, ail-ymunodd cyn-brif-sgoriwr  Arsenal â’r clwb ar fenthyg o Deirw Coch Efrog Newydd, a sgoriodd y gôl fuddugol yn erbyn Leeds yng Nghwpan Lloegr nos Lun. Roedd fel petai pawb ar bigau’r drain yn aros i weld a fyddai Henry’n cychwyn ei gêm gynghrair gyntaf nôl yn lliwiau Arsenal. Anwybyddodd Arsene Wenger y rhamant a sylweddolodd nad oedd yr ymosodwr yn holliach, felly dechreuodd Henry ar y fainc.

Newidiodd Brendan Rodgers ei dîm gyda Leon Britton a Scott Sinclair yn dychwelyd yn lle Andrea Orlandi ac Wayne Routledge. Cyn y gêm sibrydodd llawer o o gefnogwyr Abertawe eu bod yn hyderus o guro Arsenal. Roedd yn adlewyrchiad o ganlyniadau da’r Elyrch ar Stadiwm Liberty, bod y Jacs nawr yn medru chwarae yn erbyn un o glybiau mwyaf Ewrop heb ddisgwyl colli.

Gwaetha’r modd dechreuodd Arsenal ar dân. Ar ôl dim ond pum munud roedd Robin van Persie wyneb yn wyneb â’r golwr, Michel Vorm. Anwybyddodd yr ymosodwr bresenoldeb Steven Caulker a bu bron iawn iddo rwygo’r rhwyd gydag ergydiad nerthol.

Tawelwyd torf fywiog y Liberty ond cynhyrfwyd y cefnogwyr unwaith yn rhagor wrth i Abertawe ddechrau pasio’r bêl a chwarae eu gêm naturiol. Deng munud ar ôl gôl van Persie, rheolodd Nathan Dyer y bêl yn y cwrt cosbi cyn troi’n llawer rhy gyflym i gapten Cymru, Aaron Ramsey. Cwympodd Dyer a phwyntiodd y dyfarnwr at y smotyn. Dathlodd y cefnogwyr ond profodd y camerau bod Ramsey’n anffodus, oherwydd sathru wnaeth Dyer ar ôl camu ar goes Ramsey.   Sgoriodd Scott Sinclair rhwng y postyn a llaw chwith golwr Arsenal, Wojciech Szczesny.

Cyn hanner amser cafodd van Persie gyfle gwych i rwydo ei ail gôl. Oherwydd diffyg trefn amddiffynnol Abertawe roedd prif sgoriwr y gynghrair unwaith eto wyneb yn wyneb â Vorm gyda digonedd o amser i fesur ei ergyd. Gwastraffodd y cyfle drwy anelu’r bêl at dorso Vorm.

Gorffennodd hanner agored iawn yn gyfartal, ond roedd yn amlwg nad oedd yn ddigon i Brendan Rodgers. Eilyddiwyd Kemy Augustien, a oedd yn weithgar a chreadigol trwy gydol yr hanner cyntaf, am chwaraewr newydd yr Elyrch, cyn chwaraewr canol-cae Reading, Gylfi Sigurdsson.

Ail-gychwynnodd Arsenal yr ornest ac o fewn rhai eiliadau roedd gan yr asgellwr, Theo Walcott, gyfle i sgorio ond roedd ei gynnig rhy uchel.

Yn dilyn y rhybydd cynnar, dangosodd Abertawe eu bwriad i ymosod. Roedd pasio’r Elyrch yn brydferth, gyda Leon Britton a Joe Allen yn ymestyn canol cae Arsenal. Gyda 57 munud ar y cloc ceisiodd Arsenal basio’r bêl i ffwrdd o’u gôl ond roedd gwasgedd yr Elyrch yn ormod. Taclodd Joe Allen ei gapten rhyngwladol, Ramsey, mewn safle peryglus. Gwelodd Nathan Dyer yn brasgamu i mewn i wagle. Pasiodd y bêl at Dyer a oedd wedi dianc o afael Alex Song. Anadlodd y dorf yn ddwfn a llywiodd Dyer y bêl heibio  Szczesny a Koscielny i gornel y rhwyd. Rhuodd y dorf megis bwystfil rheibus. Roedd Abertawe ar y blaen yn erbyn un o gewri’r byd pêl-droed!

Parhaodd Abertawe i wthio gan synhwyro bod cyfle i sgorio gôl arall. Roedd Abertawe nawr yn tra-arglwyddiaethu ac yn creu nifer o gyfleoedd ond cosbwyd yr Elyrch am beidio sgorio. Pasiodd Johann Djourou y bêl drwy ganol tim Abertawe a rhwydodd Theo Walcott yn daclus iawn.

Am y tro cyntaf ers y chwarter awr agoriadol roedd cefnogwyr Arsenal yn canu, ond ni pharhodd y dathliadau. Mae Abertawe wedi cael eu beirniadu eleni am eu hanallu i sgorio ar ôl i’r tîm arall sgorio. Ond nid felly oedd hi yn erbyn Arsenal.  Gydag un cyffyrddiad, llithrodd y bêl heibio’r golwr i mewn i’r rhwyd. Roedd ymateb y dorf yn anhygoel. Neidiodd pawb fel cwngingod, yn methu coelio beth oedd yn digwydd.

Am weddill y gêm canolbwyntiodd Abertawe ar rwystro Arsenal. Hyd yn oed gyda Thierry Henry ar y cae methodd y tîm o Lundain greu unrhyw gyfleoedd amlwg, gyda Steven Caulker ac Ashley Williams yn cydweithio’n effeithiol gyda’r chwaraewyr canol-cae.

Chwibanodd y dyfarnwr i ddynodi bod y gêm ar ben a bod Abertawe wedi cael canlyniad hanesyddol yn erbyn Arsenal. Cymedadwyodd y cefnogwyr bob chwaraewr wrth iddynt adael y cae; pob un ohonynt wedi blino’n lan ar ôl ymdrech arwrol.

Roedd yn bleser gwylio dau dîm yn chwarae pêl-droed prydferth, anturiaethus ac uchelgeisiol, ac roedd llawer o gefnogwyr yn cytuno mai dyma oedd y gêm orau erioed i gael ei chwarae ar gae’r Liberty.

Dyma’r canlyniad sy’n argyhoeddi Abertawe a’i athroniaeth wefreiddiol i’r byd. Mae Arsenal yn enwog am chwarae pêl-droed deniadol, ond ddoe, Abertawe chwaraeodd y pêl-droed mwyaf hardd. Dangosodd Abertawe bod eu harddull, eu cymeriad a’u gwaith caled yn golygu eu bod yn medru cystadlu gyda’r timau gorau.

Naw mlynedd ar ôl cael eu hangori ar waelod pedwerydd gynghrair Lloegr, mae Abertawe’n 10ed yn y Brif Gynhrair ac yn denu edmygwyr o bedwar ban byd. Pwy yn y byd gredodd yn 2003 y buasai Abertawe ble maen nhw heddiw? Mae’n gyfnod anhygoel i fod yn Jac!