Jamie Tolley
Yn ol gohebydd CPD Wrecsam Huw Ifor mae’r cefnogwyr yn gweddio y gallen nhw gadw’r tim dan ddiwedd Ionawr…
Roedd yn rhaid prynu’r pei neu’r rhaglen ar frys ac eistedd ddydd Sadwrn gan i Wrecsam sgorio o fewn 5 munud gyda ergyd benigamp gan Jamie Tolley.
Roedd goruchafiaeth Wrecsam yn llwyr yn yr hanner cyntaf gyda’r ymosodwyr yn wastraffus ar adegau. Ychydig cyn hanner awr fe gyfunodd Harris a Speight yn dda i Speight ei gwneud hi’n 2.
Chwaraeodd Tamworth yn lawer gwell yn yr ail hanner ac wedi 54 munud fe wnaed y sgor yn 2-1. Golygodd hynny eu bod yn ymosod gyda mwy o ddynion a chreu mwy o broblemau i Wrecsam. Wedi dweud hyn fe gafodd Nat Knight Percival 2 gyfle euraidd ac arbedodd golwr Tamworth yn dda o ergyd Cizzy.
Methodd Cizzy gyfle gorau’r gem wedi 5 munud o amser am anafiadau, medrodd redeg o gwmpas y golwr ond method a rhoi y bel i mewn i gol wag. Dyna oedd digwyddiad olaf y gem a chwibanodd y dyfarnwr.
Roedd cythrwbwl yn y twnel ar ddiwedd y gem ond yr oedd Morrell yn falch bod ei chwaraewyr wedi cyd weithio yn y cyd destyn yna yn ogystal ag ar y cae. Does neb yn curo Wrecsam boed hynny ar y cae neu yn y twnel.
Y rheswm am hyn mae’n debyg yw oherwydd i ymosodwr Tamworth boeri yn nghyfeiriad Joselin Mayebi wedi iddo arbed ergyd ganddo. Does dim lle i hyn yn y gem a gobeithio y bydd rhywbeth yn cael ei wneud am hyn.
Bydd angen yr ysbryd yma arnom i ennill y gynghrair eleni. Mae’r ‘Non league paper’ eto yn son y bydd timau yn cynnig am Creighton, Knight Percival, Obeng a Harris felly yr ydym fel cefnogwyr yn gweddio y gallwn gadw’r tim dan ddiwedd Ionawr ble bydd hi’n amhosib dwyn ein chwaraewyr.
Cawn edrych ymlaen nawr am gem nos yfory a cheisio curo Brighton o flaen dros 8,000 o gefnogwyr ar y cae ras. Pob lwc y cochion.