Brendan Rodgers
Mae rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers wedi bod yn feirniadol o rai yn y wasg am beidio cael enwau rhai o’i chwaraewyr yn gywir.

Roedd Rogers yn siarad ar ôl buddugoliaeth gofiadwy ei dîm yn erbyn Arsenal ar Stadiwm Libery ddoe. Daeth ei dîm yn ôl o fod gôl ar ei hôl hi’n fuan yn y gêm i ennill o 3-2 – mae’r fuddugoliaeth yn eu codi hanner uchaf Uwch Gynghrair Lloegr.

Wrth siarad ar Match of the Day ar ôl buddugoliaeth ei dim, dywedodd ei bod yn hen bryd i’w dim gael y parch maen nhw’n ei haeddu.

“Pan fydd pobol yn dechrau cael enwau fy chwaraewyr yn gywir, yna mi wnâi ddechrau credu ein bod yn cael y parch rydym yn haeddu,” meddai.

“Y tymor yma, rwyf wedi cael pobol yn fy holi am Scott Dobbie pan mai Stephen ydi ei enw cywir a Rory Connolly, pan mai Donnelly ydi ei enw cywir.

“Mae camgymeriadau fel hyn wedi digwydd drwy’r tymor. Yr unig beth y gallwn wneud ydi ennill parch drwy ein perfformiadau,  a rydym yn gobeithio y gallwn gynnal y perfformiadau hynny.”