Llys y Goron Caerdydd
Mae cyn chwaraewr rygbi cynghrair wedi cael dedfryd o garchar wedi ei gohirio ar ôl iddo daro ei wraig.

Roedd Tylon Mafi, 30, wedi ymddangos yn yr Old Bailey drwy linc fideo o Lys y Goron Caerdydd.

Cafodd ddedfryd o saith mis wedi’i gohirio am 18 mis am ymosod ar ei wraig gan achosi niwed corfforol.

Fe fydd hefyd yn gorfod gwneud 200 o oriau o waith di-dâl a thalu costau o £240.

Dywedodd y barnwr Nicolas Cooke QC bod trais fel hyn tuag at wragedd yn annerbyniol ond roedd yn derbyn bod y digwyddiad yn un unigol.

Clywodd y llys bod Mafi bellach yn ddibynnol ar fudd-daliadau ac wedi gwahanu oddi wrth ei wraig.