Abertawe 3–2 Arsenal

Mae Abertawe bellach yn hanner uchaf yr Uwch Gynghrair yn dilyn buddugoliaeth wych yn erbyn Arsenal yn Stadiwm Liberty brynhawn Sul. Er i Arsenal fynd ar y blaen yn gynnar fe darodd yr Elyrch yn ôl a sgoriodd Danny Graham gôl fuddugol yr Elyrch 20 munud o’r diwedd.

Hanner Cyntaf

Cafodd Abertawe ddechrau gwael iawn wrth i Robin Van Persie roi Arsenal ar y blaen wedi dim ond pum munud. Chwaraeodd Andrey Arshavin bêl wych i lwybr Van Persie yn y cwrt cosbi a churodd prif sgoriwr yr Uwch Gynghrair Michel Vorm ar ei bostyn agosaf.

Ond dechreuodd yr Elyrch ddod i mewn i’r gêm wedi hynny gan ddechrau rheoli’r meddiant a chawsant gôl haeddianol wedi 16 munud. Gwnaeth Nathan Dyer yn dda i droi yn y cwrt cosbi ond cafodd ei lorio yn y broses gan Aaron Ramsey. Cymerodd Scott Sinclair y gic o’r smotyn gan ei gosod yn daclus yn y gornel isaf i unioni’r sgôr i’r tîm cartref.

Cafodd Ramsey gyfle da i wneud yn iawn am ei gamgymeriad ddau funud yn ddiweddarach ond er i gapten Cymru wneud yn dda i guro Vorm roedd Steven Caulker yn y lle iawn ar yr amser iawn i atal yr ymdrech ar y llinell.

Yna, cafodd Van Persie gyfle da i roi ei dîm yn ôl ar y blaen toc cyn yr hanner awr yn dilyn pas Yosi Benayoun ond gwnaeth Vorm yn dda i ddod allan yn gyflym ac arbed ergyd ei gydwladwr. A chafodd Dyer hanner cyfle i roi’r Elyrch ar y blaen cyn yr egwyl gydag ergyd dda o gornel y cwrt cosbi ond arbedodd Wojciech Szczesny yn gyfforddus wrth iddi aros yn gyfartal.

Ail Hanner

Cafodd Dyer well lwc wedi 12 munud o’r ail hanner wrth i’w ergyd guro Szczensny i roi’r tîm cartref ar y blaen. Gwnaeth Joe Allen yn dda i ddwyn y bêl oddi ar Ramsey yng nghanol cae cyn pasio i Dyer ar ochr y cwrt cosbi a gorffennodd yr asgellwr yn daclus.

Yn ôl y daeth y tîm o Lundain ac roeddynt yn gyfartal wedi 69 munud diolch i Theo Walcott. Chwaraeodd Johan Djourou bêl dda i lwybr y gwibiwr a chododd yntau’r bêl yn gelfydd dros Vorm i unioni’r sgôr.

Ond roedd Abertawe yn ôl ar y blaen o fewn munud diolch i Danny Graham. Daeth yr eilydd, Gylfi Sigurdsson, o hyd i’r blaenwr gyda phas wych i hollti’r amddiffyn a saethodd Graham ar draws y gôl a heibio i Szczesny.

Bu bron i Allen sicrhau’r fuddugoliaeth ddeg munud cyn y diwedd yn dilyn cyd chwarae da rhyngddo ef a Graham ond gwnaeth Djourou yn dda i daclo chwaraewr canol cae Cymru fel yr oedd yn barod i saethu o ddeg llath.

Wnaeth Arsenal ddim bygwth yn ormodol yn y deg munud olaf wrth i Abertawe amddiffyn yn ddigon cyfforddus. Wedi dweud hynny, bu rhaid i Vorm wneud arbediad dwbl da yn y munudau olaf. Arbedodd ergyd wreiddiol Tomas Rosicky ac yna ymdrech Laurent Koscielny ar yr ail gynnig.

Bu rhaid i’r cefnogwyr cartref ddioddef pedwar munud o amser a ganiateir am anafiadau ond daliodd eu tîm eu gafael ar y fantais fain i hawlio buddugoliaeth enwog. Buddugoliaeth sydd yn codi’r Elyrch i hanner uchaf y tabl, maent bellach yn y degfed safle.