Gavin Henson yn ennill iawndal o £40,000
Mae dwsinau o wleidyddion a phobl amlwg, gan gynnwys y chwaraewr rygbi Gavin Henson yr actor Jude Law ac Aelod Seneddol Rhondda Chris Bryant, wedi ennill iawndal yn sgil achosion o hacio ffonau gan bapur y News of the World.

Mae Shaun Russell, gŵr Lin Russell gafodd ei llofruddio yng Nghaint ym 1996 ynghyd a’u merch Megan; a Sara Payne, mam y ferch ysgol Sarah gafodd ei llofruddio, hefyd ymhlith 36 oedd wedi cytuno ar setliad gan News Group Newspapers, cyhoeddwyr y News of the World, yn yr Uchel Lys heddiw.

Cafodd manylion rhai o’r cytundebau eu rhoi yn y llys heddiw.

Mae AS Llafur Chris Bryant wedi derbyn iawndal o £30,000 tra bod Gavin Henson wedi derbyn £40,000. Mae Jude Law wedi derbyn iawndal o £130,000, a’i gyn-wraig Sadie Frost wedi derbyn £50,000.

Dywedodd Tamsin Allen, o gwmni cyfreithwyr  Bindmans bod y rhai oedd wedi derbyn iawndal bellach wedi cael gwybod sut yn union roedd papurau tabloid wedi cael gafael ar wybodaeth bersonol amdanyn nhw, a bod rhai hyd yn oed wedi amau eu ffrindiau agosaf a’u perthnasau.

Dywedodd bod eu bywydau wedi cael ei “heffeithio’n ddifrifol” gan yr honiadau.