Mae nifer y diwaith wedi codi i’w lefel uchaf ers 17 mlynedd heddiw gyda chynnydd o 118,000 yn nifer y rhai sy’n ddiwaith.
Fe gododd y ffigwr i 2.68 miliwn yn y tri mis hyd at fis Tachwedd, y nifer fwyaf ers yr haf 1994.
Ond yng Nghymru mae nifer y diwaith wedi gostwng o 1,000 i 130,000 sef 8.9% o’r boblogaeth.
Mae nifer y bobl rhwng 16 a 24 oed sy’n ddiwaith wedi cynyddu 52,000 dros y chwarter i 1.04 miliwn, y nifer uchaf ers i gofnodion gael eu cadw ym 1992.
Roedd nifer y rhai sy’n hawlio budd-dal ym mis Rhagfyr wedi cynyddu 1,200 i 1.6 miliwn.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol roedd nifer y bobl mewn swyddi llawn amser wedi gostwng o 57,000 yn y tri mis diwethaf, ond roedd na gynnydd o 75,000 yn nifer y gweithwyr rhan amser.
‘Pryder’
Dywedodd y Gweinidog Cyflogaeth Chris Grayling bod lefel diweithdra yn parhau yn bryder i’r Llywodraeth ond ychwanegodd bod y ffigurau yn dangos bod mwy o ferched yn dod o hyd i waith a mwy o fyfyrwyr yn edrych am waith i hybu eu hincwm.
“Er gwaetha’r amgylchiadau economaidd hynod o anodd, fe fydd dod o hyd i swyddi i’r diwaith yn aros ar flaen agenda’r Llywodraeth,” meddai.
‘Dim cysur’
Wrth ymateb i’r ffigurau heddiw dywedodd Gweindiog Busnes a Mentergarwch Llywodraeth Cymru Edwina Hart bod y ffigurau ar y cyfan yn siomedig ond bod y ffigurau o Gymru yn galonogol.
Ond dywedodd na ddylid cymryd unrhyw gysur o’r ffigurau am eu bod yn gallu newid o fis i fis, ac mae’r ffigurau yn ymwneud â phobl ifanc rhwng 18 a 24 oed yn peri pryder, meddai.
Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i wella’r sefyllfa drwy hybu’r economi a chreu cyfleoedd i bobl ifanc.
Dywedodd y byddai’r Adroddiad i Fusnesau Bach sy’n cael ei gyhoeddi heddiw hefyd yn helpu Llywodraeth Cymru i greu mwy o swyddi o fewn busnesau bach.
‘Angen gweithredu’n fuan’
Mae Plaid Cymru wedi galw am weithredu buan a phendant i hybu’r economi.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Alun Ffred Jones AC, fod gwelliant bychan yn y ffigyrau diweithdra heddiw yn arwydd o obaith fod yr argyfwng swyddi yng Nghymru dros y gwaethaf.
Ond fe rybuddiodd fod y rhagolygon economaidd yn parhau yn llwm.
“Allwn ni ond gobeithio fod y ffigyrau diweithdra diweddaraf yn arwydd fod y gwaethaf drosodd yn argyfwng swyddi Cymru. Fodd bynnag, mae’r rhagolygon economaidd i gymunedau ledled Cymru yn parhau yn llwm, gyda lefelau diweithdra yma yn sylweddol uwch na chyfartaledd y DG. Y gwir yw bod 7,000 yn fwy o bobl o hyd yn ddi-waith yn awr nac ar yr adeg hon llynedd.
“Mae Plaid Cymru yn galw am weithredu buan a phendant gan lywodraethau’r DG a Chymru er mwyn hybu twf, creu swyddi newydd ac amddiffyn swyddi.”
‘Cydweithio’
Yn ôl Nick Ramsay, llefarydd busnes a mentergarwch y Ceidwadwyr yng Nghymru, mae gostyngiad yn nifer y di-waith yng Nghymru i’w groesawu ond dywedodd bod yr economi yn parhau’n fregus.
“Mae angen i weinidogion Llafur Cymru gydweithio gyda Llywodraeth San Steffan i gymryd camau pendant i ddiogelu swyddi.”
‘Bai ar Lywodraeth San Steffan’
Yn y cyfamser mae undeb y GMB wedi cyhuddo’r Llywodraeth o waethygu’r sefyllfa.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb Paul Kenny: “Mae swyddi’n diflannu yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat ond does neb yn y Llywodraeth i weld yn gwybod sut i atal hyn.”