Mae’r gymuned ryngwladol wedi ei chyhuddo o “oedi peryglus” wrth ymateb i newyn Dwyrain Affrica, yn ôl adroddiad newydd.
Mae’r ymateb ara deg wedi golygu bod miliynau o bobl wedi marw ac mae’r gymuned ryngwladol wedi ei chyhuddo o fethu a chymryd camau pendant, er bod rhybuddion cynnar o’r newyn, gan achosi chwe mis o oedi cyn dechrau taclo’r broblem.
Mae asiantaethau blaenllaw nawr wedi condemnio llywodraethau a sefydliadau dyngarol wedi i’r adroddiad ddatgelu eu bod wedi ymateb yn “rhy araf” i wario arian ar y rheiny mewn angen.
Yn ôl elusennau Oxfam ac Achub y Plant, sydd wedi cyflwyno’r arolwg, roedd llawer o gyfrannwyr at goffrau’r ymgyrch yn mynnu tystiolaeth o fodolaeth y drychineb cyn rhoi unrhyw beth tuag yr achos.
Cafodd y drychineb ei rhagweld mor fuan â mis Awst 2010, ond ni chafodd yr ymateb llawn ei gydlynnu nes mis Gorffennaf y llynedd. Erbyn hynny roedd diffyg maeth mewn rhai mannau wedi mynd “ymhell tu hwnt i drothwy argyfwng,” meddai’r adroddiad.
Mae’r adroddiad, o’r enw ‘Oedi Peryglus’, yn dangos fod y cymorth ariannol wedi dechrau cyrraedd ar ol i’r ardal gael sylw cynyddol yn y cyfryngau.
Mae arbenigwyr yn amcangyfrif fod rhwng 50,000 a 100,000 o o bobl wedi marw rhwng misoedd Ebrill ac Awst y llynedd, gyda hanner rheiny dan bump oed.
Yn ôl Prif Weithredwr Oxfam, Barbara Stocking, mae cymunedau tlawd yn dal i “ysgwyddo baich” methiannau’r llywodraethau a’r sefydliadau dyngarol i weithredu.
Mae’r elusennau nawr yn annog llywodraethau o gwmpas y byd i arwyddo’r Siarter i Roi Terfyn ar Newyn Eithafol, sy’n fenter ar y cyd rhwng nifer o asiantaethau sy’n ceisio cymryd camau i roi terfyn ar drychinebau’r dyfodol yn gynt.