Aaron Ramsey - apelio am wybodaeth ar ddyn sydd ar goll
Mae capten Cymru, Aaron Ramsey, yn apelio am help i gael hyd i un o gefnogwyr ei glwb, Arsenal, sydd ar goll ers 10 diwrnod.

Mewn fideo 36 eiliad ar YouTube, mae;’r pêl-droediwr yn pwyso ar i unrhyw un â gwybodaeth am Michael Murphy, 32, o’r Wyddgrug sydd wedi bod ar goll ers gadael ei waith yn sydyn ddydd Mercher diwethaf, i gysylltu â’r heddlu.

Cafwyd hyd i’w gar VW Polo ymhellach ymlaen y diwrnod hwnnw ar y bont dros afon Ddyfrdwy yn Sir y Fflint.

Yn ei fideo, dywed Aaron Ramsey:

“Os gwelwch chi ef neu os ydych chi’n gwybod lle mae, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101.

“Michael, os wyt ti’n gwylio hwn, tyrd i gysylltiad. Mae dy ffrindiau, teulu a phawb yn Arsenal yn poeni amdanat.”

Y tro diwethaf i Michael Murphy gael ei weld oedd yn ei waith ar Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy tua 6 o’r bloch fore Mercher diwethaf.