Cheryl Gillan
Mae Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan wedi dweud ei bod yn croesawu ymdrechion i leihau effaith y rheilffordd trenau cyflym HS2 ar ei hetholaeth yn Chesham ac Amersham.
Roedd Cheryl Gillan wedi dweud yn y gorffennol y byddai’n ymddiswyddo petai’r cynlluniau ar gyfer rheilffordd HS2, sy’n werth £32.7 biliwn, yn cael sêl bendith y Llywodraeth.
Ond heddiw dywedodd mai dim ond cychwyn mae’r broses ar gyfer y cynlluniau. Ychwanegodd ei bod wedi trefnu i gwrdd â’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth i sicrhau bod unrhyw benderfyniadau ynglŷn â’r prosiect yn gwneud “cyn lleied o niwed â phosib i’r amgylchedd a’r cymunedau lleol, ac yn rhoi cymorth i’r rhai hynny fydd yn cael eu heffeithio gan y penderfyniad heddiw.”
Mae’r Llywodraeth wedi rhoi ei sêl bendith heddiw i’r cynllun rheilffordd, a fydd yn golygu bod trenau cyflym yn cludo hyd at 1,100 o deithwyr yn gallu teithio o Lundain i Birmingham mewn 45 munud, gan ddweud y bydd y prosiect o fudd i’r wlad gyfan.
Ond fe fydd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Justine Greening yn wynebu her gan fod y rhai sy’n gwrthwynebu’r cynlluniau wedi dweud y byddan nhw’n parhau i frwydro yn erbyn y prosiect.
Oherwydd y gwrthwynebiad i’r cynlluniau, mae Justine Greening wedi cyhoeddi rhai newidiadau gan ddweud y bydd y rhan fwyaf o rhan gyntaf y prosiect, o Lundain i Birmingham, mewn twnelau.
Mae hi hefyd wedi cyhoeddi mesurau ychwanegol i helpu’r rhai a fydd yn cael eu heffeithio gan y prosiect.
Mae Justine Greening yn honni y bydd y cynllun yn golygu gwell cysylltiadau, swyddi newydd, a thwf yn yr economi. Ond mae’r rhai sy’n gwrthwynebu’r prosiect, gan gynnwys rhai cynghorau a thrigolion lleol, yn dweud na fydd o fudd i fusnesau na’r economi, ac nad oes arian i dalu am y cynllun.
Mae Network Rail ac undebau’r rheilffyrdd wedi croesawu’r cyhoeddiad heddiw.