Kirsty Williams
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, wedi bod yn amlinellu blaenoriaethau’r blaid heddiw gan addo y bydd yn ymgyrchu dros ddileu tlodi tanwydd, ysgafnhau’r baich ar bobol sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf, a helpu’r sector adeiladu yng Nghymru.
Dyna’r tri maes, medd yr arweinydd, y bydd grŵp y Dems Rhydd yn y Cynulliad yn brwydro drostyn nhw yng Nghymru.
Yn ôl Kirsty Williams, mae’r materion hyn yn rai “difrifol” ac sydd angen eu hyrwyddo.
Wrth lansio’u hymgyrch, mae’r Dems Rhydd wedi beirniadu Llywodraeth Lafur Cymru am fethu â chyrraedd eu targed i fynd i’r afael â thlodi tanwydd erbyn 2010.
Yn ôl ystadegau’r Dems Rhydd, mae mwy na 40% o gartrefi yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd, gydag 20% o gartrefi yng Nghymru yn gwario £1 ym mhob £5 i gadw’u teuluoedd yn gynnes dros y gaeaf eleni.
Mae’r Dems Rhydd wedi addo cydweithio â phleidiau eraill, a’r Llywodraeth ei hun, wrth fynd i’r afael â’r broblem.
Helpu prynwyr tai i gael troed ar yr ysgol
Mae’r Dems Rhydd hefyd wedi cyhoeddi y byddan nhw’n ymgyrchu i sicrhau bod digon o help i bobl sy’n prynu ty am y tro cyntaf, wedi iddi ddod i’r amlwg bod gostyngiad sylweddol yn nifer y cartrefi fforddiadwy sy’n cael eu hadeiladu yng Nghymru.
Yn ôl y Dems Rhydd, fe ddechreuwyd adeiladu 1,205 o dai newydd ar draws Cymru yn ystod Ebrill a Mehefin 2011. Mae’r ffigwr hwn yn ostyngaid o 31% yn nifer y cartrefi a gafodd eu hadeiladu rhwng Ebrill a Mehefin 2011, o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2010 – ac i lawr 7% ar nifer y tai a gychwynwyd rhwng Ebrill a Mehefin 2009.
Yn ôl Kirsty Williams, mae ei phlaid yn mynd i wthio i gael “cynllun Llywodraeth Cymru lle fydd y llywodraeth yn ymddwyn fel gwarantwr ar gyfer nifer o forgeisi ar draws Cymru, gan helpu pobol sy’n prynu eu ty cyntaf i gael eu troed ar yr ysgol.”