Gethin Jenkins
Roedd rhaid i’r Gleision fodloni ar bwynt bonws yn eu gêm gynghrair yn erbyn pencampwyr Ewrop, Leinster, ddoe.

Wedi i’r Gwyddelod sgorio dwy gais yn o fewn y chwarter awr agoriadol, brwydrodd y Gleision yn ôl, gyda chais gan y prop rhyngwladol, Gethin Jenkins. Ond colli o drwch blewyn wnaeth y Gleision yn y diwedd – o 23 pwynt i 19.

Roedd hyfforddwr y Gleision, Justin Burnell, wedi sylweddoli fod yna fynydd anferth i’w ddringo ar ôl ildio pwyntiau mor gynnar yn y gêm:

“Wrth chwarae timoedd o safon a Leinster, mae’n mynd i fod yn dasg anodd ennill os ydych chi’n mynd ar ei hol hi o 12 pwynt,” meddai.

“Roedd problemau allweddol yn dactegol a systematig yn ein hamddiffyn ni heno. Efallai fod Leinster wedi sylweddoli fod yna wendid yn ein hamddiffyn, gan eu bod nhw wedi defnyddio’r bas tu fewn ar ddau achlysur gwahanol i sgorio’u ceisiadau.”

Roedd Gethin Jenkins hefyd yn siomedig, yn enwedig ar ôl i’r Gleision ddod mor agos at gipio buddugoliaeth ar ddiwedd y gêm:

“Roedden ni’n siomedig fod Leinster wedi mynd ar y blaen mor gynnar yn y gêm, a’n bod ni wedi ei chael hi’n anodd croesi’r llinell,” meddai wrth Golwg360.

“Dw i ddim yn croesi yn aml, felly, er bod e mond yn ddau fetr i ffwrdd, roedd hi’n neis cael cais i ddod a’r tîm yn ôl fewn i’r gêm. Er ein bod ni’n siomedig, ni’n gwybod beth sydd angen i ni weithio arno cyn y pythefnos  o gemau yng Nghwpan Heineken.”

Gydag anafiadau i chwaraewyr gan gynnwys Gavin Henson, Bradley Davies, Jamie Roberts a T Rhys Thomas, bu’n rhaid i Burnell a’i gyd-hyfforddwr, Gareth Barber ddod a thalent ifanc i mewn i’r garfan, gan gynnwys Harry Robinson, Rhys Williams a Macauley Cook.

Dywedodd Gethin Jenkins fod y to ifanc wedi gwneud argraff fawr arno.

“Roeddwn i’n teimlo fod lot o’r chwaraewyr ifanc wedi dod i mewn a chwarae mor dda ar achlysur mor fawr,” ebe’r prop.

“Roeddwn i’n teimlo fod Harry [Robinson] a Rhys Williams wedi gwneud gwahaniaeth ar ôl dod oddi ar y fainc, ac fe wnaeth Macauley roi ei ben lawr a gwneud yr hyn oedd angen iddo’i wneud.”

Ymateb Leinster

Un o brif chwaraewyr Leinster ac Iwerddon erbyn hyn yw’r maswr Jonathan Sexton. Dywedodd ei fod ef a’i dim yn lwcus i ddychwelyd yn ôl i Ddulyn gyda buddugoliaeth:

“Mae hi’n anodd dod i Gaerdydd bob tro, a doedd heno ddim gwahanol. Roedden ni’n lwcus i gipio cwpwl o geisiadau cynnar. Ond rydyn ni’n hapus iawn o gael y fuddugoliaeth ac yn edrych ymlaen at geisio ymestyn ein rhediad da o gemau yn yr wythnosau nesaf.”

Bydd Sexton yn gobeithio wynebu Sam Warburton, Leigh Halfpenny a Gethin Jenkins unwaith eto ymhen ychydig wythnosau pan mae Iwerddon yn wynebu Cymru yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad.

“Mae cwpwl o wythnosau i fynd cyn y gêm, gyda dwy gêm anferth o’n blaenau yng Nghwpan Heineken,” meddai.

“Fe gafodd Cymru gystadleuaeth wych yng Nghwpan y Byd, gyda lot o fois Caerdydd yn serennu fel unigolion, ond er ein bod ni’n gobeithio dial rhywfaint am y gêm yng Nghwpan y Byd.

“Ond byddai dechrau’r Chwe Gwlad gyda buddugoliaeth yn fwy o gymhelliant i ni nag yw dial.”

Gohebydd: Owain Gruffudd