Mae yna bryder na fydd Gavin Henson ar gael ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl iddo anafu ei goes.

Bu’n rhaid i Henson wylio gêm Caerdydd yn erbyn Leinster ddoe o’r ystlys ac mae’n debyg na fydd yn holliach i wynebu Gwyddelod Llundain yng Nghwpan Heineken y penwythnos nesaf.

Roedd y canolwr 29 oed wedi gobeithio chwarae dros Gymru am y tro cyntaf ers anafu ei arddwrn yn ystod buddugoliaeth 19 – 9 Cymru dros Loegr ym mis Awst.

Methodd Gwpan Rygbi’r Byd o ganlyniad i’w anaf ac mae’n bosib na fydd ganddo amser i brofi ei allu cyn i Warren Gatland gyhoeddi ei sgwad ar 22 Ionawr.