Gareth Thomas Big Brother (Ian West/PA)
Mae cyn-gapten tîm rygbi Cymru, Gareth Thomas, ymysg y sêr sydd yn cymryd rhan yng nghyfres newydd Celebrity Big Brother eleni.

Roedd enwau’r cystadleuwyr ar y gyfres wedi eu cadw yn gudd nes iddyn nhw fynd i mewn i’r tŷ yn ystod rhaglen fyw neithiwr.

Gareth Thomas, o Ben y Bont ar Ogwr, oedd y Cymro cyntaf i ennill 100 o gapiau dros ei wlad. Gorffennodd ei yrfa yn chwarae i dîm rygbi’r gynghrair y Crusaders yn Wrecsam.

Yn ogystal â’i gampau ar y cae rygbi mae Gareth Thomas, sy’n 37 oed, yn adnabyddus am ddatgelu ei fod yn hoyw yn 2009, un o’r chwaraewyr rygbi cyntaf i wneud hynny.

Wrth fynd i’r tŷ dywedodd ei fod yn debygol o golli ei dymer os yw un o’r ymgeiswyr eraill yn ei bryfocio.

“Os yw pobol yn mynd dan fy nghroen i ac yn haeddu llond ceg mi fyddwn nhw’n ei chael hi. Mae gen i wallt coch a thymer tanllyd,” meddai.

Mae yna gysylltiad Cymreig arall ar y rhaglen, wrth i Natasha Giggs, chwaer yng nghyfraith ddadleuol y pêl-droediwr o Gymru, Ryan Giggs, gael mynediad i’r tŷ.

Priododd y fam i ddau 29 oed â brawd Ryan Giggs, Rhodri, yn Las Vegas yn 2010.

Derbyniodd hi ambell i fŵ gan y dorf wrth iddo ymlwybro i mewn i’r dŷ Big Brother.

“Roeddwn i’n disgwyl derbyn ambell fŵ, ond diolch am y gefnogaeth,” meddai hi.

Mae trigolion eraill y tŷ yn cynnwys actor Resevoir Dogs, Michael Madsen, y dawnsiwr Andrew Stone, yr actores Denise Welch, un o ymgeiswyr X Factor, Frankie Cocozza, actores Eastenders, Natalie Cassidy, y fodel, Georgia Salpa, y modleau Playboy, Kristina a Karissa Shannon, y rapiwr, Romeo Dunn, actor The Only Way is Essex, Kirk Norcross, a’r fodel tudalen tri, Nicola McLean.