Gwyn Elfyn Llun: BBC
Mae un o actorion mwyaf adnabyddus Pobol y Cwm wedi dweud fod teimlad o “dristwch a siom” am adael y gyfres.

Mae Gwyn Elfyn wedi bod yn chwarae rhan Denzil Rees ers bron i 28 mlynedd. Cafodd wybod chwe mis yn ôl ei fod yn gadael Pobol y Cwm fis Ionawr.

“Mae’n deimlad rhyfedd gadael. Teimlad o dristwch a siom,” meddai Gwyn Elfyn wrth Golwg360.

“Gyda’r rhaglen yn symud i’r Bae ac yn y blaen, ac yn dechrau cyfnod newydd – roedd pobl yn meddwl mod i’n siarad drwy fy het. Ond, fel digwyddodd o – pan ddaeth y newyddion, ro’n i’n barod amdano ar un ystyr,” meddai.

“Wedi’r holl flynyddoedd, ti’n tyfu’n agos at y gyfres. Mae’n golygu rhywbeth i rywun ar ol gymaint o gyfnod. Mae rhywun wedi rhoi rhan helaethaf ei fywyd tuag at y gyfres – ma hynny yn sicr wedi chwarae rhan flaenllaw iawn yn ein bywyd ni fel teulu ac yn fy mywyd i yn bersonol,” meddai Gwyn Elfyn, cyn dweud bod y rhaglen wedi bod yn rhan “annatod” o’i fywyd.

‘Dwy ochr i bob ceiniog’

Bydd yn mynd ati nawr i chwilio am waith, meddai. “Fel pawb arall – fe fydda i yn chwilio am waith nawr. Fe ddaw yn amlwg ar ol hyn i bobl fy mod i ar gael i weithio.

“Ar ol chwarae Denzil am gymaint o flynyddoedd – mae’n bosibl bydd rhaid newid cyfeiriad am chydig – gwaith cyflwyno a gwaith radio falle er mwyn trio edrych ar yr ochr bositif o’r peth. Mae ’na ddwy ochr i bob ceiniog,” meddai.

Dywedodd yr actor y byddai cyflwyno a gweithio ym myd radio  yn “newid braf” .

“Mae actio yn mynd i fod yn anodd am chydig oherwydd bod pobl wedi cyfarwyddo gymaint o ‘ngweld i’n portreadu un cymeriad am gymaint o flynyddoedd.

“Pan mae rhywun yn rhoi gymaint o flynyddoedd  – mae’n rhoi ei yrfa ar stop am ryw chydig mewn ffordd o siarad,” meddai cyn dweud ei fod yn gobeithio bydd “un drws yn cau ac un arall yn agor yn rhywle arall”.

Uchafbwyntiau

Ymhlith ei uchafbwyntiau mae’r stori am golli un o’r efeilliaid, John. “Roedd yn stori ddirdynnol, yn sialens ac yn anodd iawn,” meddai cyn son am uchafbwyntiau eraill oedd yn cynnwys “Clwb Pêl droed Cwmderi yn mynd o amgylch Cymru.”

“Fe fydda i’n aros nes bydd rhywun yn codi’r ffon gobeithio ac yn gweld rhyw ffordd bositif o’n nefnyddio i eto,” meddai.

Yn fachgen bach yn yr ysgol gynradd roedd Gwyn Elfyn eisiau “chwarae ffwtbol neu fod yn gowboi” meddai. Ond, erbyn diwedd yr ysgol uwchradd roedd eisiau “mynd i ffermio neu chwarae rygbi.”

“Yn anffodus, yr agosa ddois i oedd actio ffarmwr,” meddai.

Mae llawer o drafod a dyfalu wedi bod ar wefan Twitter ynghylch stori ymadawiad Denzil ac mae’r cynhyrchwyr wedi addo y bydd y golygfeydd olaf yn rhai dwys iawn.