Alun Michael
Mae’r dedfrydau gafodd llofruddwyr Stephen Lawrence yn rai teg a phwysig iawn wrth ddod â therfyn i bennod flêr iawn yn hanes heddlu Llundain, yn ôl un Aelod Seneddol Cymreig.

Yn ôl Alun Michael, sy’n gyn ddirprwy Ysgrifennydd Cartref, mae’r ffaith fod dedfryd wedi ei basio ar lofruddiaeth a ddigwyddodd bron i 19 mlynedd yn ôl yn dangos ei bod hi wedi cymryd amser i bethau newid, ond fod Heddlu’r Metropolitan wedi cael ei drawsnewid oherwydd y pwyslais ar achos Stephen Lawrence.

Wrth ymateb i’r newyddion fod Garry Dobson wedi derbyn lleiafswm o 15 mlynedd o garchar am y llofruddiaeth ym 1993, a David Norris wedi derbyn o leia’ 14 mlynedd o garchar am lofruddio’r myfyriwr18 oed, dywedodd Alun Michael fod y dedfrydau yn “deg.”

Cafodd y ddau eu dedfrydu yn ôl safonau dedfrydu troseddwyr ifainc, gan fod y ddau yn 17 ac yn 16 pan lofruddiwyd Stephen Lawrence yn ôl ym mis Ebrill 1993 – er bod Garry Dobson bellach yn 36, a David Norris yn 35.

“Roedden nhw’n ddedfrydau teg i feddwl bod y bechgyn yn ifanc ar y pryd,” meddai Alun Michael, “a fedrwch chi ddim newid hynna.”

Mae’r Aelod Seneddol, a oedd yn y Swyddfa Gartref gyda Jack Straw pan lansiwyd Ymchwiliad Macpherson i adolygu’r modd y cafodd yr achos ei drin gan Heddlu’r Met yn ôl yn 1997, yn dweud ei fod yn croesawu’r ddedfryd heddiw er bod gymaint o amser wedi mynd heibio ers y llofruddiaeth.

“Roedd llawer iawn o bethau i’w hystyried yn yr achos yma,” meddai, “ac mae’n amlwg nad oedd yr heddlu wedi gwneud ymchwil proffesiynnol iawn i’r achos yn y lle cyntaf.”

Fe gyfarfu Alun Michael â rhieni Stephen Lawrence yn y Swyddfa Gartref yn ystod Ymchwiliad Macpherson, ac mae’n dweud fod y ddau wedi dioddef o dan straen y diffyg atebion ar hyd y blynyddoedd.

“Roedd hi’n faich mawr iawn iddyn nhw ei gario,” meddai Alun Michael, “yn enwedig y faich o deimlo fod bywyd Stephen Lawrence wedi cael ei wastraffu.”

Ond mae’n dweud fod yr achos wedi bod yn un pwysig iawn wrth drawsnewid Heddlu’r Met.

“Fe fu’r achos yma yn sbardun pwysig i newid agwedd yr heddlu,” meddai.

“Bu’n rhaid i’r Met wynebu’r ffaith fod mwy na jyst grŵp o blismyn yn methu a gwneud eu gwaith yn iawn, ond fod yna hiliaeth yn bodoli o fewn eu hadrannau.

“Fe ddaeth hi hefyd i’r amlwg fod perthynas rhy agos rhwng yr heddlu a rhieni un o’r bechgyn,” meddai.

Yn ôl Alun Michael, mae rhoi Dobson a Norris dan glo yn gam pwysig ymlaen “i roi hyder yn ôl yn yr heddlu” – ond nad yw’r frwydr ar ben eto.

“Mae’r her yn parhau i ail-adeiladu perthynas y Met gyda phob agwedd o gymunedau Llundain,” meddai, “ac mae angen parhau’n wyliadwrus, rhag i’r heddlu ddychwelyd i’w hen ffyrdd.”

Yn ôl yr Aelod Seneddol, byddai gwella’r berthynas rhwng yr heddlu a’r cyhoedd wedi arbed problemau mor ddiweddar â’r terfysgoedd yn Llundain – a bod gan Gymru rhywbeth i’w ddysgu i Heddlu’r Met yn hynny.

“Y rheswm na welwyd terfysgoedd yn ne Cymru oedd am bod cysylltiad gwell gyda heddlu Cymru â’u cymunedau,” meddai Alun Michael.

“Mae sicrhau cysylltiad rhwng yr heddlu a’r cyhoedd yn holl bwysig.

“Mae’n her anodd, yn enwedig yn y sefyllfa o doriadau sy’n digwydd ar hyn o bryd,” meddai, “ond mae hi mor bwysig nawr ag erioed.”