Ben a Catherine Mullany
Mae dyn wnaeth lofruddio cwpl o Gymru oedd ar eu mis mel yn Antigua wedi trywanu carcharor arall yn y carchar, meddai’r Heddlu.

Fe gafodd Kaniel Martin ei ddyfarnu’n euog ym mis Gorffennaf o ladd Benjamin a Catherine Mullany o Gaerdydd tra roedden nhw ar wyliau yn Antigua.

Fe ddywedodd William Holder, swyddog yn y carchar fod ymchwiliadau yn parhau ar ôl digwyddiad ddydd Gwener diwethaf lle’r oedd Kaniel Martin wedi trywanu’r carcharor arall am 6.30am.

Cafodd  y dyn ei gludo i’r ysbyty ac mae wedi derbyn triniaeth am anafiadau difrifol ond nid angheuol.

Nid oedd y swyddog carchar yn gallu ymhelaethu ar y cyhuddiadau y gallai Kaniel Martin, 24 blwydd oed, eu hwynebu.

Cafodd Catherine Mullany 31, a’i gŵr, Ben, eu llofruddio gan ddau ddyn lleol ar noson ola’ eu mis mêl, bythefnos ar ôl priodi.

Fe wnaeth y rheithgor ddarganfod Martin ynghyd â dyn arall, Avie Howell, yn euog o’u llofruddiaeth fis Gorffennaf y  llynedd ac fe gafodd y ddau tair dedfryd oes olynol, yn hytrach na’r gosb eithaf.

Mae disgwyl i Martin a Howell fynd o flaen eu gwell eto eleni am ladd dau berson arall.