Mae 10 rhybudd llifogydd yn dal mewn grym gan Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru y bore ’ma, ar ôl noson arall o law trwm mewn sawl rhan o’r wlad.

Er bod y gwynt wedi gostegu rhywfaint dros nos, mae’r glaw yn dal i achosi problemau mewn rhannau o Gymru. Cafodd rhybudd llifogydd diweddaraf Asiantaeth yr Amgylchedd ei gyhoeddi o gwmpas 7am y bore ’ma, yn rhybuddio am lifogydd posib ar lannau afonydd Gwy a Mynwy yn Sir Fynwy.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi annog pobol i fod yn wyliadwrus o lifogydd lleol ar draws Cymru, wrth i’r rhagolygon tywydd ddangos fod rhagor o law ar y ffordd i Gymru yn yr oriau nesaf.

Mae swyddogion Asiantaeth yr Amgylchedd eisoes wedi bod  yn sicrhau bod amddiffynfeydd llifogydd ar draws Cymru mewn cyflwr da, ac wedi bod yn clirio unrhyw atalfeydd dŵr posib.

Cyngor yr Asiantaeth yw i gadw llygad ar y newyddion a’r tywydd rhag ofn bydd unrhyw rwystrau ar y ffyrdd neu’r rheilffyrdd yn ystod y dydd.

Fe fu llawer o drafferthion ar y rheilffyrdd oherwydd y tywydd ddoe, ond dywedodd llefarydd ar ran Trenau Arriva Cymru wrth Golwg 360 y bore ’ma fod y problemau hynny i “gyd wedi eu datrys cyn yr oriau brig brynhawn ddoe, ac nad oes arwydd o drafferthion mawr y bore ’ma.”

Ond mae trenau First Great Western yn rhybuddio y bore ’ma y gallai trenau rhwng Caerdydd a gorsaf Paddington, Llundain, fod hyd at 20 munud yn hwyr oherwydd cyfyngderau cyflymder rhwng Bryste a Swindon oherwydd llifogydd. Mae disgwyl i’r oedi yma effeithio rhai trenau sy’n mynd trwy orsafoedd Casnewydd a Chanol Caerdydd.

Ddoe, fe fu’r tywydd garw yn gyfrifol am drafferthion ar y ffyrdd ac ar y môr hefyd, gan ladd dau ddyn ar ôl i wyntoedd o 100 milltir yr awr daro Prydain.

Cafodd dyn yn ei bumdegau ei ladd yng Nghaint ar ôl i goeden gwympo ar ei fan tra roedd yn eistedd ynddo. Dywedodd yr heddlu bod y dyn yn dod o Tonbridge a’i fod wedi marw’n syth. Mae’n debyg bod dyn arall oedd yn y fan gydag e wedi llwyddo i ddianc yn ddianaf.

Cafodd  aelod o griw llong dancer ei ladd pan darodd ton enfawr yn erbyn y llong oddi ar arfordir de Ddyfnaint ar y ffin â Chernyw. Cafodd y dyn ei gludo mewn hofrennydd i ysbyty yn Plymouth ond bu farw’n ddiweddarach.

Mae disgwyl i’r glaw trymaf ddisgyn yng Ngwynedd, Conwy a Cheredigion yn ystod y dydd heddiw, gyda’r gwyntoedd yn taro’r glannau a’r bryniau yn bennaf.