Haydn Evans
Mae’r heddlu wedi cadarnhau mai corff Haydn Evans, 18 oed o’r Wyddgrug oedd yr un gafwyd mewn llyn ar dir gwesty Carden Park ger Caer dydd Gwener diwethaf.

Yn dilyn archwiliad post mortem mae nhw hefyd wedi cadarnhau ei fod wedi boddi ac nad oes unrhyw amgylchiadau amheus ynglyn a’i farwolaeth.

Roedd Haydn wedi bod ar goll ers oriau man bore Sadwrn 17 Rhagfyr ar ôl dathlu’r Nadolig efo’i gyd-weithwyr o gwmni adeiladu yn yr Wyddgrug mewn parti yn y gwesty. Daeth nofwyr tanddwr o hyd i’w gorff dydd Gwener.

Dywedodd Heddlu Caer bod ffeil ar y mater yn cael ei baratoi ar gyfer y crwner gan ddiolch hefyd i’r gwirfoddolwyr lleol fu’n helpu i chwilio am Haydn dros y Nadolig.