Daeth miloedd o bobl ynghyd ar strydoedd prif ddinasoedd Prydain neithiwr i ddathlu dyfodiad 2012.

Cynhaliwyd dathliadau Calennig yn llawn cerddoriaeth a thân gwyllt ynghanol Caerdydd yng nghwmni’r Fari Lwyd.

Draw yng Nghaeredin, bu dros 80,000 o bobl yn dathlu mewn partion traddodiadol Hogmanay ar strydoedd y brifddinas. Unwaith eto daeth y dathliadau i ben efo arddangosfa chwe munud o dân gwyllt.

Roedd pethau’n dawelach yn Belffast gan na chynhaliwyd cyngerdd awyr agored yno eleni.

Roedd y dathlu mwyaf beth bynnag yn Llundain wrth i’r brifddinas nodi cychwyn blwyddyn y gemau Olympaidd yn ogystal a blwyddyn Jiwbili y Frenhines.

Wrth i Big Ben daro hanner nos, cychwynnodd arddangosfa 11 munud o dân gwyllt ac roedd sawl taniad yn atgoffa’r gwylwyr o’r themau Olympaidd. Saethwyd tua 12,000 o ddarnau o dân gwyllt i’r awyr gan greu dros 50,000 o ffrwydriadau lliwgar.

Roedd dros 3,000 o heddlu ar strydoedd Llundain a thua 250,000 yn dathlu ond erbyn 4.30yb, 77 o bobl oedd wedi cael eu harestio, y rhan fywaf am fod yn feddw ac afreolus.